Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 2 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:49, 2 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Ddoe, wfftiodd eich cydweithiwr Chris Bryant AS, gefnogwyr annibyniaeth fel 'plentynnaidd'. Rydych chi eich hun wedi awgrymu bod cefnogwyr annibyniaeth Cymru yn fewnblyg ac yn 'adain dde yn eu hanfod'. Wrth i arolygon diweddar ddangos bod mwy na hanner pleidleiswyr Llafur o blaid annibyniaeth erbyn hyn, a bod y gefnogaeth honno ar ei huchaf ymhlith ein pobl ifanc, ar y cwestiwn cenedlaethol, onid y mudiad annibyniaeth, yn hytrach na chi, Prif Weinidog, sy'n edrych nid at yn ôl ond ymlaen at ddyfodol ein gwlad?