Tai Fforddiadwy

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 2 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:04, 2 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rwy'n falch iawn o gadarnhau y byddwn ni'n rhagori ar y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ar gyfer y tymor Llywodraeth hwn. Mae'r datganiad dros dro diweddaraf yn dangos yr adeiladwyd ychydig yn llai na 3,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn 2019-20, y cyfanswm blynyddol uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 2008.