1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Mawrth 2021.
5. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cyrraedd ei tharged ar gyfer tai fforddiadwy? OQ56346
Llywydd, rwy'n falch iawn o gadarnhau y byddwn ni'n rhagori ar y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ar gyfer y tymor Llywodraeth hwn. Mae'r datganiad dros dro diweddaraf yn dangos yr adeiladwyd ychydig yn llai na 3,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn 2019-20, y cyfanswm blynyddol uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 2008.
Prif Weinidog, yn dilyn yr etholiad diwethaf yn 2016, cawsoch gyfarfod â fy nhad—chi fel Gweinidog Cyllid ac ef fel Gweinidog tai—i gynllunio sut y byddech chi'n cyrraedd targed uchelgeisiol Llafur Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy. Nawr, gyda'ch gilydd, fe wnaethoch chi gyflwyno dull cyflawni a chyllid i sicrhau bod hyn yn digwydd. Eich arweinyddiaeth chi ac arweinyddiaeth dad wnaeth ddarparu'r rhaglen hon; fe wnaeth ef balu'r sylfeini ac fe wnaethoch chithau osod y teils ar y toeau. Dylem ni i gyd fod yn falch iawn o'r cyflawniad hwn.
Ledled Cymru, mae tai fforddiadwy wedi eu hadeiladu, ac mae trigolion wedi gallu cael cartrefi y mae mawr eu hangen. Cysylltodd un o'r trigolion hyn â mi a ddywedodd ei bod hi, drwy fy ngwaith a fy nghefnogaeth i, wedi gallu cael gafael ar un o'ch cartrefi fforddiadwy chi a dad ar adeg o anhawster gwirioneddol yn ei bywyd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai dyma Llafur Cymru yn cyflawni dros ein cymunedau ac yn bod yno i'n trigolion pan eu bod nhw fwyaf ein hangen ni?
Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Jack Sargeant am y cwestiwn yna? Rwy'n cofio'r cyfarfod y mae'n cyfeirio ato yn eglur. Yn gynnar yn nhymor y Senedd hon, roedd swyddfa Carl Sargeant a'm swyddfa i drws nesaf i'w gilydd. Roeddwn i newydd gael fy mhenodi yn Weinidog cyllid, roedd ef yn gyfrifol am weithredu addewid maniffesto Llafur i greu 20,000 o dai fforddiadwy newydd mewn cyfnod o bum mlynedd—y nifer fwyaf yn holl gyfnod datganoli. Rwy'n cofio yn eglur iawn Carl yn dod i mewn i'm swyddfa ac yn dweud wrthyf i, 'Rwyf i angen swm mawr iawn o arian, ac rwyf i ei angen yn gyflym iawn.' Y ddadl yr oedd yn ei gwneud i mi oedd, er mwyn cyrraedd 20,000 o dai fforddiadwy, roedd ef angen y rhan fwyaf o'r buddsoddiad yn ystod dwy flynedd gyntaf tymor y Senedd i roi'r rhaglen ar waith, i ddechrau adeiladu'r tai, ac wrth wneud hynny byddem ni'n cyrraedd y targed uchelgeisiol.
Mae'n deyrnged. Mae'n deyrnged iddo ef, yn enwedig, fy mod i'n gallu dweud heddiw bod y targed hwnnw wedi'i gyflawni, oherwydd oni bai am y dadleuon iddo ef eu sbarduno a grym y ddadl a arweiniodd at roi'r cyllid hwnnw ar waith, yna ni fyddai'r targed uchelgeisiol hwnnw wedi ei gyrraedd. Dyna nod amgen y Blaid Lafur. Byddwn yn mynd i'r etholiad nesaf gyda chyfres o raglenni uchelgeisiol yn y fan yma i Gymru. Ond, Lywydd, ni fyddan nhw'n uchelgeisiol yn unig, byddan nhw'n gredadwy hefyd. Os byddwn ni'n dweud y byddwn ni'n gwneud rhywbeth, yna byddwn ni'n ei gyflawni. Dywedasom y byddem ni'n darparu 20,000 o dai fforddiadwy. Byddwn wedi gwneud hynny a mwy. A'r math o berson a ddaeth i siarad â Jack am y tŷ sydd ganddi i fyw ynddo erbyn hyn, bydd pobl o'r fath ym mhob un etholaeth yma yng Nghymru.
A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, am y gwaith sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan ein cymuned cyn-filwyr yng Nghymru fynediad digonol at dai? Gwn y byddwch chi, fel minnau, yn cofio bod yr wythnos hon, wrth gwrs, yn nodi pen-blwydd arbennig i'r cyn-filwyr hynny a fu'n rhan o ryfel y Gwlff, a gwn fod llawer o gyn-filwyr sydd wedi dioddef o anhwylder straen wedi trawma yn arbennig wedi ei chael hi'n anodd iawn weithiau i addasu i fynd yn ôl i fywyd sifil, ac yn anffodus mae rhai ohonyn nhw yn canfod eu hunain ar ein strydoedd yn y pen draw. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod digartrefedd ymhlith ein cymuned cyn-filwyr yn cael ei ddileu, os gwelwch yn dda?
Diolch i Darren Millar am y cwestiwn pwysig yna. Rwy'n falch iawn o allu adrodd, yn rhan o'r ymdrech enfawr a wnaed gan ein cydweithwyr mewn awdurdodau lleol, gan gymdeithasau tai ac eraill yn y sector gwirfoddol, fel y bydd yn gwybod, bod cannoedd a channoedd o bobl a fyddai fel arall wedi bod yn ddigartref ar y stryd yng Nghymru wedi cael cynnig llety yn y flwyddyn eithriadol hon, ac mae hynny yn sicr wedi cynnwys pobl sydd wedi gadael y lluoedd arfog ac y gall bywyd fod yn frwydr iddyn nhw wrth geisio addasu i wahanol ffordd o fyw eu bywydau.
Nawr, yma yng Nghymru, rwy'n credu bod gennym ni hanes balch o'r hyn yr ydym ni wedi gallu ei gyflawni gyda'n gilydd, ac rwy'n cydnabod yn llwyr bod hon yn agenda gwbl drawsbleidiol yr ydym ni wedi ei dilyn yma yng Nghymru, boed hynny ym maes iechyd meddwl, boed hynny yn gyfleoedd cyflogaeth. Ac roeddwn i'n falch iawn o allu cadarnhau i'r Aelod yn ddiweddar bod syniad a gyflwynodd i mi am y tro cyntaf ynghylch sicrhau cyfweliadau i bobl a oedd wedi gadael y lluoedd arfog am swyddi yn Llywodraeth Cymru, ein bod wedi gallu bwrw ymlaen â hynny, ac o ran tai hefyd. Mae'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb penodol dros faterion cyn-filwyr, Hannah Blythyn, wrth gwrs, yn Ddirprwy Weinidog yn yr adran sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros dai. Ac mae gwneud yn siŵr nad yw pobl sydd wedi gadael y lluoedd arfog yn canfod eu hunain yn mynd yn ddigartref, ond bod ganddyn nhw gyfleoedd tai eraill a llawer gwell ar eu cyfer, mae hynny yn sicr yn rhan o'r agenda, yr agenda cyn-filwyr ehangach, sydd gennym ni yng Nghymru.
Prif Weinidog, mae'n dda bod eich Llywodraeth yn rhagori ar ei tharged ei hun o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Senedd hon, er bod penawdau diweddar yn awgrymu bod datblygwyr preifat yn ystyried nad yw Cymru yn ddewis arbennig o ddeniadol ac yn nodi llawer o resymau, gan gynnwys y system gynllunio a'r ffaith mai rheoliadau Cymru yw'r rhai mwyaf beichus yn y DU. Rydym ni'n gwybod nad yw'r targed o 20,000 yn agos at fodloni'r galw gwirioneddol, felly beth yw eich cynllun i annog amrywiaeth o ddarparwyr i adeiladu yma yng Nghymru? Diolch.
Wel, Llywydd, rwyf yn falch o'r safonau sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae'n gwbl hanfodol, pan fydd tai newydd yn cael eu hadeiladu, eu bod nhw'n dai sy'n addas ar gyfer y dyfodol, eu bod nhw'n dai a fydd yn gwneud eu cyfraniad at y targedau di-garbon net yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw ar gyfer 2050. A gwn fod rhai adeiladwyr tai sy'n ei chael hi'n anodd bodloni'r safonau sy'n ofynnol, ond maen nhw'n gwbl angenrheidiol. Mae'r ffaith y cyrhaeddwyd 8,000 o'n 20,000 o gartrefi fforddiadwy drwy'r cynllun Cymorth i Brynu yn dangos i mi bod gennym ni adeiladwyr tai yng Nghymru sy'n gallu darparu tai o safon yn unol â'r safonau sydd eu hangen arnom ni yma. Byddwn yn parhau i fod â safonau ar gyfer adeiladu tai yng Nghymru nad ydyn nhw'n ein gadael gyda gwaddol enfawr o ôl-ffitio'r tai hynny i'w gwneud yn addas ar gyfer y math o ddyfodol carbon-niwtral y mae angen i ni ei gael. Rwy'n falch iawn bod gennym ni safonau a fydd yn sefyll i'w harchwilio gan genedlaethau'r dyfodol, fel y mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei ofyn gennym ni.