Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 2 Mawrth 2021.
Ie, diolch am y cwestiynau yna. Rwyf eisiau ymdrin â gofalwyr di-dâl yn gyntaf. Fe gyhoeddwyd canllawiau gennym ni'r wythnos diwethaf ar ofalwyr di-dâl ac rwy'n credu bod hynny wedi rhoi llawer iawn o eglurder, ynghŷd a'r ffurflen ar-lein. Rydym ni wedi gweithio gyda grwpiau'r gofalwyr cenedlaethol i gytuno arnynt, ac fe ddylai hynny ddarparu dealltwriaeth ehangach o bwy sy'n ofalwyr di-dâl nag y gwnaeth rhai o'r canllawiau a roddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar y dechrau, ac fe gafodd y rheini eglurhad ychwanegol wedyn, wrth gwrs. Nid dim ond sôn am bobl sy'n cael budd-daliadau sy'n gysylltiedig â bod yn ofalwyr yr ydym ni yma, oherwydd, wrth gwrs, nid yw gofalwyr di-dâl o reidrwydd yn cael y budd-daliadau hynny. Fe wyddom nad yw llawer o ofalwyr di-dâl yn dymuno bod yn hysbys, er gwaethaf y ffaith ein bod ni, yn y ddeddfwriaeth a basiwyd gennym, wedi rhoi argymhelliad penodol ar hawliau gofalwyr a'u hawl nhw i gael eu hasesiad eu hunain. Felly, mae'r wybodaeth sydd gan lywodraeth leol am y rhai sy'n cael eu hasesu fel gofalwyr yn fan cychwyn da i ni, ond, mewn gwirionedd, ni fyddai'r wybodaeth hon ynddi ei hun wedi bod yn ddigonol. Fe allem ni fod wedi wynebu sefyllfa o ymdrin â'r bobl a oedd eisoes ar y rhestr ac eithrio pawb arall, ac fe wyddom y byddai hynny wedi achosi anghyfiawnder sylweddol i ystod eang o bobl. Felly, rydym wedi datblygu trefn y gall pobl fynd trwyddi ar gyfer cael eu rhoi ar y rhestr. Pan fyddan nhw'n wedi llenwi'r ffurflen ar-lein, a fydd ar gael ledled Cymru erbyn dydd Llun fan bellaf, fe fydd hynny'n golygu y bydd eu henwau nhw'n mynd ymlaen wedyn i system imiwneiddio Cymru ac yna fe fyddant yn cael eu hapwyntiadau.
Mae gennym yr her hon—. Rwy'n deall y pwynt a awgrymwyd nad yw gofyn i bobl optio i mewn yn union yr un fath â chymryd gwybodaeth oddi ar restr. Wel, mewn gwirionedd, rhan o'n her ni yw nad yw'r GIG yn gwybod pwy yw pob un o'r gofalwyr di-dâl. Mae'r GIG yn gwybod pa mor hen ydych chi, ond, ar y cyfan, nid yw'n gwybod yn union beth ydych chi'n ei wneud i ennill eich cyflog neu, yn wir, o ran eich gweithgareddau gofalu di-dâl. Dyna pam mae angen inni fod â phroses optio i mewn. Ac ydym, wrth gwrs, rydym ni'n dibynnu ar bobl yn trin y broses fel dylen nhw, gyda gonestrwydd. Mae'r ffurflen yn gofyn ichi fynd trwy gyfres o gwestiynau am eich gwaith a'ch cyfrifoldebau chi wrth ofalu. Mae'n bosibl y gallai rhai pobl geisio llywio eu ffordd trwy hynny i ennill blaenoriaeth. Byddai hynny'n golygu bod yn rhaid iddynt fod yn gyson anonest. Os yw pobl yn dewis bod yn anonest, rwyf i o'r farn na ddylem gymryd agwedd mwy anghynhwysol a fyddai fel arall yn eithrio llawer o ofalwyr di-dâl rhag cael eu cynnwys ym mlaenoriaeth 6 i gael eu brechlynnau nhw. Fel y dywedais i, rydym wedi gweithio trwy hyn gyda sefydliadau'r gofalwyr.
O ran eich pwynt chi am y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a'r cyngor, rydym ni'n gwneud yr hyn y mae'r cyhoedd yn disgwyl inni ei wneud, yn fras, sef dilyn yr wyddoniaeth a'r dystiolaeth. Rydym ni wedi cael y cyngor arbenigol annibynnol hwn; rydym wedi ei ddilyn o'r blaen ar bob un o'n rhaglenni eraill ni ar gyfer imiwneiddio a brechu, ac fe fyddai'n beth rhyfedd iawn inni ddweud ein bod ni wedi clywed yr wyddoniaeth a'r dystiolaeth, a'n bod ni wedi cael cyngor clir ynglŷn ag iechyd y cyhoedd, ond ein bod ni wedi penderfynu peidio â'u dilyn nhw. Oherwydd y gwir amdani yw, pe byddem ni'n dewis blaenoriaethu gwahanol grwpiau o weithwyr, fe fyddai'n rhaid inni ddiystyru pobl eraill wedyn. Felly, nid oes ots pa grŵp o weithwyr yr ydych chi'n eu rhoi ar frig y rhestr ar gyfer y cam nesaf, fe fydd yn rhaid ichi ddweud wrth bobl eraill, 'Fe ddaw eich tro chi eto.' Ac mae'r cyngor a gawsom ni yn seiliedig yn glir iawn ar sut i gael yr effaith fwyaf posibl ar atal salwch difrifol a marwolaethau posibl oherwydd COVID.
Nid yw hyn yn golygu dweud nad yw pobl ifanc yn bwysig, ond mae'n ymwneud â chydnabod maint y ffactorau risg, sy'n cael eu nodi'nn eglur iawn yn y dystiolaeth wyddonol a'r cyngor a gawsom ni gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Ac rwy'n tybio bod hynny'n dibynnu ar eich dymuniad chi i ddilyn y dystiolaeth a'r cyngor hwnnw neu a ydych chi'n dymuno mynd ar drywydd dull arall. Rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i ddilyn y dystiolaeth a'r cyngor, a'r rheswm yw, fel y dywedais i yn fy natganiad, fod y Cyd-bwyllgor wedi ystyried peryglon galwedigaethau amrywiol. Fe ystyriwyd hynny ac roedden nhw'n parhau i fynegi'r hyn sydd, yn fy marn i, yn gyngor clir iawn y dylem ni, wrth roi'r brechlynnau, gymryd dull sy'n seiliedig ar oedran, a'r ffordd gyflymaf o amddiffyn pobl trwy gwblhau rhaglen frechu'r boblogaeth o oedolion. Y perygl yw, rwy'n ofni, pe byddem yn dewis rhai grwpiau unigol, er gwaethaf y cyngor hwnnw, y byddem ni nid yn unig yn taflu'r wyddoniaeth i ffwrdd, ond fe fyddem ni'n gwneud penderfyniadau ar sail ein gwerthoedd ni o ran pa grwpiau o weithwyr hanfodol sy'n bwysicach nag eraill. Ac a ddylem ni ddweud nad yw swyddogion post, gweithwyr post, mor bwysig, neu nad yw gweithwyr manwerthu mor bwysig, pan nad oes unrhyw dystiolaeth yn bodoli, mewn gwirionedd, sy'n dweud na ddylid blaenoriaethu'r bobl hynny? A ddylem ni gynnwys gweithwyr allweddol eraill ond gwrthod gweithwyr trafnidiaeth sy'n wynebu'r cyhoedd, sydd wedi gweld cyfraddau uchel o farwolaethau oherwydd COVID? Felly, nid yw'n fater mor syml ag y mae rhan o'r ymgyrchu presennol yn ei awgrymu.
Rwy'n deall pam mae pobl yn ymgyrchu i bobl fel nhw gael blaenoriaeth yn y rhaglen frechu. Ond meddyliwch chi am y peth fel hyn: os ydych chi'n athro 25 oed, ac nad ydych chi yn un o'r grwpiau sydd â chyflwr iechyd sylfaenol a fyddai'n eich rhoi chi yn grwpiau 4 neu 6, yna mae eich risgiau chi'n sylweddol is nag athro 45 oed neu athro 55 oed. Mae athro 55 oed, ac mae yna lawer ohonyn nhw, wedi cael ei gynnwys eisoes yn grwpiau 5 i 9. Fe ddaw athro 45 oed yn gyntaf yn y garfan nesaf, pan fyddwn ni wedi cwblhau grwpiau 5 i 9. Nid yw hynny'n golygu nad yw athro 25 oed yn bwysig, ond mae ei risgiau ef yn llai, a dyna'r pwynt. O ran rhaglen i'r holl boblogaeth fel hon, mae angen inni weithredu ar sail sy'n ystyried y risgiau hyn ar draws y boblogaeth gyfan ar gyfer lleihau'r niwed a allai fod, ar gyfer sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf posibl a gaiff ei darparu gan y brechlynnau. Dyna'r dystiolaeth a roddir inni gan gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a dyna'r penderfyniad yr wyf i wedi ei wneud i helpu i gadw Cymru'n ddiogel.