Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 2 Mawrth 2021.
Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am ystyried y memorandwm a chyflwyno adroddiad arno. Mae'r ddau bwyllgor o'r farn nad oes unrhyw rwystr i'r Senedd gytuno i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Rwyf wedi nodi'r pwyntiau defnyddiol y cododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ac yn cadarnhau fy mod i wedi dod i'r un penderfyniad ynghylch y dyddiad ailbrisio nesaf â Llywodraeth y DU.
Fodd bynnag, fe hoffwn i dynnu sylw at y rhaglen waith fanwl sydd gennym ni ar waith i ystyried y diwygiadau tymor hwy ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru. Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) (Rhif 2) ar 8 Medi i ddarparu ar gyfer newidiadau technegol i'r system ardrethi annomestig yng Nghymru a Lloegr. Bydd darpariaethau yn y Bil sy'n berthnasol i Gymru yn symud y dyddiad ailbrisio nesaf o 1 Ebrill 2022 i 1 Ebrill 2023. Mae'r Bil yn addasu hefyd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno rhestrau arfaethedig o 30 Medi yn y flwyddyn brisio flaenorol i 31 Rhagfyr. Y prif reswm dros newid y dyddiad yw ystyried effaith y pandemig ar y broses brisio a'r marchnadoedd eiddo. Mae'r Bil hefyd yn sicrhau bod cysondeb yn y dull o brisio a fabwysiadwyd ledled Cymru a Lloegr yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Rwyf i o'r farn bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, fodd bynnag, rwy'n fodlon y dylid gwneud y darpariaethau hyn mewn Bil o eiddo'r DU. Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol addas arall a fyddai'n ein galluogi i wneud y newidiadau angenrheidiol o fewn yr amserlenni angenrheidiol i ganiatáu i'r ailbrisio fynd yn ei flaen. Bil byr, technegol yw hwn i sicrhau newid y mae cefnogaeth eang iddo gan fusnesau a thalwyr ardrethi eraill ledled Cymru. Felly, cynigiaf y cynnig a gofynnaf i'r Senedd gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.