– Senedd Cymru am 4:18 pm ar 2 Mawrth 2021.
Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2), a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am ystyried y memorandwm a chyflwyno adroddiad arno. Mae'r ddau bwyllgor o'r farn nad oes unrhyw rwystr i'r Senedd gytuno i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Rwyf wedi nodi'r pwyntiau defnyddiol y cododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ac yn cadarnhau fy mod i wedi dod i'r un penderfyniad ynghylch y dyddiad ailbrisio nesaf â Llywodraeth y DU.
Fodd bynnag, fe hoffwn i dynnu sylw at y rhaglen waith fanwl sydd gennym ni ar waith i ystyried y diwygiadau tymor hwy ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru. Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) (Rhif 2) ar 8 Medi i ddarparu ar gyfer newidiadau technegol i'r system ardrethi annomestig yng Nghymru a Lloegr. Bydd darpariaethau yn y Bil sy'n berthnasol i Gymru yn symud y dyddiad ailbrisio nesaf o 1 Ebrill 2022 i 1 Ebrill 2023. Mae'r Bil yn addasu hefyd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno rhestrau arfaethedig o 30 Medi yn y flwyddyn brisio flaenorol i 31 Rhagfyr. Y prif reswm dros newid y dyddiad yw ystyried effaith y pandemig ar y broses brisio a'r marchnadoedd eiddo. Mae'r Bil hefyd yn sicrhau bod cysondeb yn y dull o brisio a fabwysiadwyd ledled Cymru a Lloegr yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Rwyf i o'r farn bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, fodd bynnag, rwy'n fodlon y dylid gwneud y darpariaethau hyn mewn Bil o eiddo'r DU. Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol addas arall a fyddai'n ein galluogi i wneud y newidiadau angenrheidiol o fewn yr amserlenni angenrheidiol i ganiatáu i'r ailbrisio fynd yn ei flaen. Bil byr, technegol yw hwn i sicrhau newid y mae cefnogaeth eang iddo gan fusnesau a thalwyr ardrethi eraill ledled Cymru. Felly, cynigiaf y cynnig a gofynnaf i'r Senedd gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2) ym mis Hydref y llynedd, a chyflwynwyd ein hadroddiad yn ôl yn nechrau mis Tachwedd. Mae ein hadroddiad yn nodi rhywfaint o gefndir y Bil ac yn tynnu sylw at y Biliau blaenorol na chawsant sêl bendith Senedd y DU am wahanol resymau.
Yn ein hadroddiad, rydym ni wedi nodi asesiad Llywodraeth Cymru o ba gymalau o'r Bil y mae angen cydsyniad y Senedd ar eu cyfer ac fe wnaethom nodi hefyd barn Llywodraeth y DU fod angen cydsyniad ar gymal 1(1) a chymal 2 hefyd, er ein bod ni'n cydnabod bod y darpariaethau hyn yn ategol eu natur.
Fe wnaethom ni nodi hefyd rhesymau Llywodraeth Cymru pam, yn ei barn hi, y mae gwneud darpariaeth ar gyfer Cymru yn y Bil yn briodol. Wrth wneud hynny, rydym ni wedi cydnabod y byddai addasu swyddogaethau swyddogion prisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio drwy Ddeddf y Senedd yn gofyn am gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol. Fodd bynnag, rydym yn pryderu bod Llywodraeth Cymru wedi nodi yn rhan o'i chyfiawnhad dros gydsynio i fil y DU resymau 'cydlyniaeth' a'r
'cysylltiad rhwng systemau Cymru a Lloegr ar gyfer gweinyddu’r broses ailbrisio at ddibenion ardrethu'.
Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr esboniad a'r rhesymau a roddwyd gan y Gweinidog heddiw. Fe wnaeth y pwyllgor ddefnyddio ymagwedd wahanol, gan nad ydym ni yn ystyried y byddai cyfiawnhad o'r fath yn briodol.
Fel yr ydym ni wedi nodi o'r blaen wrth ystyried memoranda cydsyniad offerynnau statudol a datganiadau ysgrifenedig Rheol Sefydlog 30C, nid oes hygrededd i gyfiawnhad o'r fath, yn ein barn ni, yng nghyd-destun datganoli. Felly, fe wnaethom ni ddweud y byddem yn croesawu eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch a fyddai newidiadau tebyg yn y dyfodol yn cael eu gwneud drwy Fil Cymru, ac rydym ni wedi cael sylwadau'r Gweinidog heddiw. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Nid oes gen i unrhyw siaradwyr eraill. Wn i ddim a yw'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn dymuno ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.
Gwnaf, yn fyr; diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i glywed gan Gadeirydd y pwyllgor. Mae'r system ardrethi annomestig yn darparu refeniw hanfodol iawn i ariannu gwasanaethau llywodraeth leol yma yng Nghymru. Mae ailbrisiadau yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod biliau yn adlewyrchu amodau'r farchnad yn gywir a bod trethdalwyr annomestig yn cyfrannu eu cyfran deg tuag at gostau gwasanaethau llywodraeth leol. Wrth gwrs, nid mesur codi refeniw yw ailbrisio; ond mae'n cynnal tegwch y system drwy ailddosbarthu'r atebolrwydd am ardrethi annomestig i adlewyrchu'r newidiadau yn y farchnad eiddo a'r sectorau busnes.
O ran y cwestiwn pam y mae angen Bil y DU, gan gynnwys darpariaethau Cymru ym Mil y DU y tro hwn, i sicrhau bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cael cyfarwyddyd statudol amserol i ymgymryd â'i gwaith prisio. Nid oedd unrhyw gyfrwng deddfwriaethol addas arall yn rhaglen bresennol y Senedd a allai fod wedi arwain at newid dyddiad yr ailbrisio yn yr amserlenni tynn iawn sy'n ofynnol. Ond nid yw'r cam gweithredu hwn yn tanseilio datganoli, ac rwyf i yn dymuno ailadrodd fy mod i wedi gwneud penderfyniad ynghylch y dyddiad ailbrisio nesaf yn ofalus iawn, gan ystyried yr holl ddewisiadau. Fy mhenderfyniad bryd hynny oedd mai'r Bil hwn oedd y ffordd fwyaf effeithiol o weithredu ein newidiadau polisi i Gymru.
Diolch yn fawr iawn am gyfraniadau'r pwyllgorau i'r gwaith craffu ar hyn.
Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau; felly, unwaith eto, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn awr yn gohirio'r cyfarfod cyn symud ymlaen i Gyfnod 3 o'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Felly, mae'r cyfarfod wedi ei ohirio.