9. Dadl Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio: Buddsoddiad mewn ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:26, 3 Mawrth 2021

Dwi'n ofni bod y cynnig a gwelliant y Ceidwadwyr yn cymryd rhai materion yn ganiataol, heb dystiolaeth i gefnogi hynny. Mae yna nifer o ysgolion mawr yn fy etholaeth i sydd yn cynnig addysg ardderchog i'r disgyblion. Mae yna nifer o ysgolion bach yn fy etholaeth i sydd hefyd yn darparu addysg ardderchog i'r disgyblion. Mae'n wir hefyd bod maint ysgol yn gallu cael effaith negyddol neu effaith gadarnhaol ar ansawdd addysg. Dwi wedi gweld ysgolion mawr yn cael eu trefnu mewn ffordd effeithiol iawn, yn creu gofodau bychain ac yn hyblyg yn y ffordd y mae sgiliau eu staff yn cael eu defnyddio yn llawn er lles disgyblion. Dwi wedi gweld ysgolion bach yn gwneud gwaith ardderchog er gwaethaf y problemau a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu. Mae yna lawer iawn o ffactorau yn effeithio ar ansawdd addysg, ac mi fyddwn i'n dadlau bod athrawon ardderchog sy'n ysbrydoli disgyblion ac yn codi eu disgwyliadau yn ffactor hollbwysig. Mae hynny'n gallu digwydd mewn ysgolion mawr a bach fel ei gilydd.

Dwi'n mynd i droi rŵan at fater arall sy'n cael sylw yn y cynnig, sef y daith o'r cartref i'r ysgol. Mae gwelliant y Llywodraeth yn crybwyll bod yna adolygiad yn digwydd o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mae adran 10 y Mesur teithio yn cynnwys dyletswydd gyffredinol fod yn rhaid i bob awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru hybu mynediad at addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg pan fyddan nhw'n arfer swyddogaethau o dan y Mesur. Yn y ddogfen ganllaw a gyhoeddwyd yn 2014, mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod angen i awdurdodau lleol weithredu eu dyletswydd i hybu addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg wrth benderfynu ar yr ysgol agosaf addas. Ond, mae'r awgrym bod yr ysgol agosaf yn gallu bod yn addas, er nad ydy hi'n darparu'r cyfrwng iaith o ddewis, yn gyfeiliornus, ac yn deillio o'r ffaith bod y cysyniad o 'ysgol addas' yn cael ei ddiffinio yn gul yn y Mesur, mewn ffordd sydd ddim yn cyfeirio o gwbl at addasrwydd o ran cyfrwng iaith yr addysg sy'n cael ei darparu. Mae hwn yn ymddangos fel gwendid sylfaenol wrth geisio pennu'r dyletswyddau sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth. Felly, mae angen i unrhyw adolygiad sydd yn digwydd gymryd ystyriaeth lawn o hynny, a hefyd o'r dyfarniadau llys diweddar ynglŷn ag addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Dwi'n nodi bod cwmpas gwreiddiol yr adolygiad yma wedi cael ei ehangu bellach i gynnwys y grŵp oedran 4 i 16 mlwydd oed yn ogystal ag ôl-16, felly mae yna gyfle yn y fan hyn i wneud gwahaniaeth. Mae'n debyg, erbyn hyn, mai mater i'r Senedd nesaf fydd unrhyw newidiadau yn deillio o'r adolygiad, ac mae hi yn siomedig na fu cynnydd ar hyn y tymor yma. Felly, diolch yn fawr am y cyfle i gynnig y sylwadau yna, ac er ein bod ni yn cytuno efo elfennau o'r cynnig a'r gwelliannau, mae yna elfennau ynddyn nhw i gyd na fedrwn ni ddim eu cefnogi hefyd, ac felly mi fyddwn ni'n pleidleisio yn eu herbyn nhw heddiw. Diolch, Llywydd.