Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 3 Mawrth 2021.
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Ni allaf gredu bod Russell wedi bod yn craffu ar fy ngwaith ers pum mlynedd, fel llefarydd y Ceidwadwyr. Mae amser wedi hedfan yn wir, ond mae ei graffu wedi bod yn gadarn ond yn gyson deg ac adeiladol. Felly, hoffwn ddiolch iddo am y rôl y mae wedi'i chwarae yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael ei dwyn i gyfrif am y penderfyniadau y mae wedi’u gwneud a minnau, fel Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth.
Bydd Russell George a’r Aelodau eraill yn ymwybodol o'r effaith ddinistriol y mae'r pandemig wedi'i chael ar y diwydiant hedfan ledled y byd. Yn ddiweddar, nododd Maes Awyr Heathrow golled o £2 biliwn. Rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn darparu £100 miliwn i rai meysydd awyr rhanbarthol yn Lloegr. Rydym wedi gweld Llywodraeth yr Alban yn darparu £17 miliwn i feysydd awyr yr Alban, ac mae Gogledd Iwerddon, yn yr un modd, yn darparu £10 miliwn i'w meysydd awyr hwy. Felly, mae’n dangos sut y mae pob llywodraeth yn ymyrryd. Y gwahaniaeth, wrth gwrs, yw mai Llywodraeth Cymru—pobl Cymru—sy’n berchen ar faes awyr rhyngwladol Caerdydd. Mae'n ased cenedlaethol i bobl Cymru.
Wrth ateb y cwestiwn ynglŷn ag a yw cydbwysedd y cymorth yn briodol ai peidio, hoffwn atgoffa’r Aelodau fod maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn cynnal mwy na 5,000 o swyddi yn anuniongyrchol ac yn cynnal 2,400 o swyddi hedfanaeth. Mae hynny'n cyfateb i oddeutu 4.4 y cant o gyflogaeth yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'n ased economaidd enfawr, a heb gymorth Llywodraeth Cymru, yn fy marn i, byddai wedi methu. Ac felly, mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn cefnogi’r maes awyr fel galluogydd twf ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint. Ac mae gan y maes awyr ragolygon gwych ar gyfer y dyfodol, pan fyddwn wedi cefnu ar y pandemig hwn.
Os edrychwn ar y cyfnod cyn y pandemig, roedd y twf yn y maes awyr yn eithaf syfrdanol. Roedd niferoedd teithwyr wedi cynyddu dros 50 y cant yn ystod y cyfnod ers i Weinidogion Llywodraeth Cymru ddod yn berchen ar, neu ers i bobl Cymru ddod yn berchen ar y maes awyr. A chyda'r cynlluniau uchelgeisiol a nodwyd o dan yr uwchgynllun, ac yn enwedig gyda'r cynlluniau uchelgeisiol mewn perthynas â lleihau carbon, credaf y bydd y maes awyr yn faes awyr rhagorol yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt o ran teithiau awyr carbon isel.
Ac yn olaf, wrth ymateb i’r cwestiwn olaf a ofynnodd Russell George i mi, yr ateb amlwg yw na wnaethom fwrw ymlaen â ffordd liniaru’r M4—. Ni wnaethom fwrw ymlaen â ffordd liniaru’r M4 am resymau y mae’r Prif Weinidog, a minnau ac eraill wedi'u hailadrodd wrth yr Aelodau'n rheolaidd, sef bod yr amgylchiadau wedi newid yn eithaf dramatig dros y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd datganiad o argyfwng hinsawdd yr ydym ni ar draws y Siambr yn gyfrifol am ei gydnabod ac ymateb iddo, ac wrth gwrs, bu modd inni sefydlu comisiwn Burns i gynhyrchu set amgen o argymhellion a gwaith, a oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar welliannau i'r seilwaith rheilffyrdd, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael cyfle i deithio drwy ddulliau ar wahân i geir preifat.