1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 3 Mawrth 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau fy set o gwestiynau, gan mai hon yw’r set olaf o gwestiynau y byddaf yn eu gofyn i'r Gweinidog, drwy ddiolch iddo unwaith eto am y ffordd adeiladol y mae wedi ymgysylltu â mi a’r gwrthbleidiau eraill drwy gydol yr argyfwng. Yn sicr, rwyf wedi gwerthfawrogi hynny'n fawr, a theimlaf fod hynny wedi ein helpu i ymgysylltu'n adeiladol ac i helpu i gefnogi busnesau hyd eithaf ein gallu ar yr adeg anodd hon.
Os caf ddechrau gyda rhai pwyntiau ynghylch cymorth busnes cyfredol, soniodd y Gweinidog yn ei ymateb i Paul Davies am gronfa ddewisol llywodraeth leol. Fe fydd yn ymwybodol fod rhai cydweithwyr mewn llywodraeth leol wedi dweud wrthyf fod eu hadran gyllid yn pryderu ynghylch arfer disgresiwn yn llawn rhag ofn y bydd hyn yn creu problemau maes o law drwy'r broses archwilio. Tybed a all y Gweinidog roi diweddariad i ni ar unrhyw sgyrsiau pellach a gafodd gyda llywodraeth leol i roi sicrwydd iddynt na fydd y broses archwilio yn effeithio'n negyddol arnynt os ydynt yn arfer disgresiwn yn llawn i gyrraedd cymaint o fusnesau â phosibl.
Os caf droi yn awr at y gronfa newydd ar gyfer busnesau lletygarwch a fydd yn agor yr wythnos nesaf, rwy’n amlwg yn croesawu’r cymorth wedi’i dargedu ar gyfer y busnesau hynny yr effeithir arnynt waethaf, ond rwy’n pryderu ei bod yn ymddangos mai dim ond i fusnesau sy’n cyflogi 10 o weithwyr neu fwy y mae’r gronfa hon ar gael. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw a yw hynny’n golygu 10 gweithiwr cyfwerth ag amser llawn neu 10 unigolyn, gan y bydd yn ymwybodol iawn fod llawer o bobl sy'n gweithio ym maes lletygarwch yn gweithio mewn rolau rhan-amser. Ac a all egluro beth yw'r cynlluniau ar gyfer busnesau llai, gan nad yw llawer o fusnesau lletygarwch, yn sicr, yn cyflogi 10 gweithiwr cyfwerth ag amser llawn?
Ac yn olaf, a oes unrhyw risg y bydd peth o'r arian sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer cymorth busnes yn cael ei golli os na chaiff ei wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, ac a yw'r Gweinidog yn hyderus fod gan ei adran gapasiti i ddosbarthu’r arian hwnnw er mwyn sicrhau bod busnesau'n cael cymorth mewn modd amserol, ond hefyd i sicrhau nad oes unrhyw arian a fwriedir ar gyfer busnesau Cymru yn cael ei golli?
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau? Ac yn gyntaf oll, rwy'n croesawu'r geiriau caredig iawn ar ddechrau ei set o gwestiynau heddiw. Credaf fy mod wedi bod yn ffodus iawn yn fy nghyfnod yn y rôl hon o gael llefarwyr hynod adeiladol yn y gwrthbleidiau, gan gynnwys Helen Mary Jones. Rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd adeiladol y mae llefarwyr y gwrthbleidiau, ac yn wir, Aelodau ar draws y Siambr, wedi gallu gweithio gyda mi a fy swyddogion dros y pum mlynedd diwethaf, ac rydym wedi ceisio estyn allan, yn yr un modd ag y gwn fod Gweinidogion eraill wedi ceisio estyn allan, er mwyn cael y syniadau gorau posibl o bob rhan o'r Siambr, gan nad oes gennym fonopoli ar syniadau da, a daw'r canlyniadau gorau weithiau pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd. Felly, hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys Helen Mary Jones, am berthynas mor adeiladol yn fy nghyfnod yn y swydd hon.
Ac os caf ateb y cwestiwn olaf yn gyntaf, ac mae hwnnw’n ymwneud â pha mor gyflym y mae angen i arian gyrraedd busnesau er mwyn osgoi sefyllfa lle mae buddsoddiad heb ei wario. Mae cyflymder wedi bod yn ffactor allweddol yn y ffordd rydym wedi datblygu systemau cymorth, ac mae awdurdodau lleol, ynghyd â Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru, wedi gwneud gwaith aruthrol yn sicrhau bod arian yn cyrraedd cyfrifon busnesau cyn gynted â phosibl. Felly, rhydd hynny hyder inni allu dweud y byddwn yn gwario'r arian sydd wedi'i ddyrannu i gymorth busnes, sef oddeutu £400 miliwn yn fwy na'r hyn rydym wedi'i gael mewn cyllid canlyniadol sy’n ymwneud â busnes wrth gwrs, gan ddangos yr ystyriaeth ddifrifol iawn a roddwyd gennym i niwed economaidd y pandemig.
Rwyf hefyd yn croesawu’r cyfle y mae Helen Mary Jones wedi’i roi imi egluro’r £30 miliwn o gymorth ychwanegol i fusnesau sy’n gysylltiedig â gweithwyr cyfwerth ag amser llawn. Ond wrth gwrs, ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun, oherwydd pe bai cyfyngiadau'n cael eu hymestyn yn yr adolygiad ar 12 Mawrth, bydd y £150 miliwn sydd wedi’i ddarparu yn golygu y bydd pob busnes yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, a’r sectorau dianghenraid, yn cael taliad ychwanegol o hyd at £5,000, ni waeth faint o weithwyr cyflogedig sydd ganddynt. Felly, bydd amddiffyniad a chymorth yn cael eu rhoi i fusnesau o bob maint.
Ac yn olaf, rydym yn cefnogi llywodraeth leol ledled Cymru i arfer y disgresiwn sydd ei angen arnynt er mwyn cefnogi busnesau. Felly, hoffwn roi sicrwydd i awdurdodau lleol y dylent allu defnyddio’r meini prawf ac arfer eu disgresiwn ym mhob achos er mwyn sicrhau bod busnesau'n cael cymorth drwy'r cyfnod ofnadwy hwn.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei atebion. Wrth gwrs, yn anffodus, ac yn anochel, mae'n debyg, rydym yn dechrau clywed am swyddi'n cael eu colli o Gymru. Bydd y Gweinidog wedi clywed yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth ddoe am y 27 swydd yn Joloda Hydraroll Ltd a allai gael eu symud o Gaerwen ac Ynys Môn. Fe fydd hefyd yn ymwybodol o'r 99 o swyddi gweithgynhyrchu sydd mewn perygl yn AIM Altitude yn Llanelli sy'n cynhyrchu rhannau mewnol cabanau awyrennau. Yn amlwg, enghreifftiau'n unig yw’r rhain. A all y Gweinidog roi sicrwydd i ni heddiw, wrth ymdrin â’r ymateb brys i COVID, fod gan ei adran gapasiti o hyd i ymateb i'r mathau hyn o sefyllfaoedd? Efallai nad yw nifer y swyddi a gollwyd a grybwyllwyd gennyf heddiw yn swnio’n enfawr, ond yn y cymunedau yr effeithir arnynt, maent yn wirioneddol bwysig, ac mae problemau gyda llinellau cyflenwi hefyd.
Ac wrth edrych tua’r dyfodol, a yw'r Gweinidog yn credu y bydd ei adran yn gallu datblygu capasiti i fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar wybodaeth er mwyn nodi, wrth inni ddod allan o argyfwng COVID, pa gwmnïau yng Nghymru sydd mewn perygl o weld colli swyddi fel y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn gallu camu i mewn yn gynharach ac efallai ymyrryd i gefnogi'r busnesau hynny, a'u hannog i gadw gwaith yma yng Nghymru, cyn iddynt gyrraedd sefyllfa o argyfwng, lle mae pobl yn aml yn teimlo, er bod ymgynghori'n digwydd, fod y penderfyniadau eisoes wedi'u gwneud?
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau unwaith eto, a dweud y byddwn yn cytuno’n llwyr fod cyflogwr bach neu ganolig mewn cymuned fach iawn yn gyflogwr hynod bwysig? Felly, wrth weithio i sicrhau ein bod yn cefnogi busnesau o bob maint ledled Cymru, mae'r genhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn nodi sut y byddwn yn buddsoddi £270 miliwn yn ychwanegol drwy Fanc Datblygu Cymru yn nhwf busnesau, busnesau bach a chanolig yn bennaf, yn y tymor canolig a’r tymor hir yng Nghymru.
A gallaf roi sicrwydd i bob Aelod fod gennym gapasiti yn y Llywodraeth i ymdrin â'r angen ar unwaith i ymateb i fusnesau sy’n cau a busnesau mewn sefyllfa o argyfwng, nid yn unig ar sail unigol, ond gan ein bod bellach yn gweithio mor gydweithredol gyda'n partneriaid rhanbarthol hefyd. A bydd yr Aelodau'n ymwybodol, er enghraifft, fod gennym dimau ymateb rhanbarthol sy'n edrych ar ragolygon cyflogaeth ac argyfyngau busnes ledled Cymru, ac maent yn gwneud gwaith anhygoel mewn cyfnod hynod heriol. Ac rydym hefyd yn defnyddio uned wybodaeth Banc Datblygu Cymru, sy'n hynod ddefnyddiol wrth nodi’r heriau y mae rhai sectorau a busnesau unigol yn eu hwynebu, fel y gallwn roi’r ymyrraeth gynnar honno ar waith cyn gynted â phosibl.
Rwy'n ddiolchgar unwaith eto i'r Gweinidog am ei atebion. Gan edrych ychydig ymhellach i’r dyfodol, rydym ni, yn fy mhlaid, yn cefnogi’r pwyslais yn y ddogfen genhadaeth ar ddatgarboneiddio, ac yn wir, hoffem weld y Gweinidog yn mynd ymhellach. Mae'n mynd i fod yn hanfodol wrth inni ailadeiladu ein heconomi. Ond drwy'r broses honno o ddatgarboneiddio diwydiant, fe fydd yn ymwybodol fod yna ofnau gwirioneddol y bydd pobl yn colli yn ogystal â phobl yn ennill. Er enghraifft, fe fydd yn ymwybodol o bryderon gweithwyr yn y diwydiant dur. Nawr, mae’n rhaid i'r newid hwn ddod, ond rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi fod yn rhaid i'r cyfnod pontio—y newid i ddatgarboneiddio—fod yn gyfiawn ac yn gymdeithasol flaengar.
Tybed a all roi diweddariad i ni heddiw ar unrhyw drafodaethau pellach y mae wedi gallu eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol dur yng Nghymru a sut y gellir buddsoddi i alluogi ein diwydiant dur i ddatgarboneiddio. Ac a fyddai’n cefnogi creu pwyllgor pontio cyfiawn yn y Senedd nesaf i graffu ar Lywodraeth nesaf Cymru er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol, yn enwedig i’r rhai mwyaf economaidd fregus yn ein cymunedau, yn sgil y camau sy’n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru eu cymryd er mwyn datgarboneiddio ein heconomi?
Wel, yn sicr, credaf ei bod yn werth ystyried yr awgrym olaf hwnnw. Bydd yn benderfyniad ar gyfer y weinyddiaeth nesaf, ond credaf ei fod yn syniad rhagorol, gan ei fod yn cydnabod bod yn rhaid inni sicrhau adferiad gwyrdd a chyfiawn a theg, ac felly, byddai craffu ar y Llywodraeth ar y sail honno’n gwneud synnwyr.
Rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Aelodau heddiw fod cyngor dur y DU wedi'i drefnu yn nes ymlaen yr wythnos hon. Siaradais â'r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gynharach yr wythnos hon ynghylch dur a'r angen i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cefnogi busnesau dur y DU i bontio’n ddiogel i economi carbon isel, gyda’r pwyslais ar 'yn ddiogel’—nid ydym am weld swyddi lu’n cael eu colli yn y diwydiant dur. Rydym am sicrhau bod y newid hwnnw, sy'n angenrheidiol fel y dywedodd Helen Mary Jones, yn cael ei wneud yn ddiogel o ran sicrwydd cyflogaeth, a’n bod yn sicrhau bod cymaint â phosibl o’r bobl â'r sgiliau uwch a gyflogir ar hyn o bryd yn niwydiannau dur Cymru yn cael eu cadw yn y dyfodol, ac os oes angen, yn cael eu huwchsgilio neu eu hailsgilio.
Llefarydd y Ceidwadwyr nawr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf finnau ddweud ei bod wedi bod yn bum mlynedd o gyflwyno cwestiynau i chi yn ystod cwestiynau’r llefarwyr, ac a gaf fi ddiolch i chi, yn yr un modd ag y gwnaeth Helen Mary, am y ffordd adeiladol rydym wedi gweithio gyda'n gilydd, yn enwedig yn ystod y pandemig? Credaf mai dyna fyddai'r cyhoedd yn disgwyl i ni ei wneud a diolch i chi am hynny.
Gyda hynny, Weinidog, rwyf am ddefnyddio fy set olaf o gwestiynau i wneud yr hyn rwyf wedi bod yn ei wneud sef craffu ar eich penderfyniadau chi a phenderfyniadau'r Llywodraeth. Y bore yma, fe gyhoeddoch chi y bydd swm enfawr o arian trethdalwyr yn cael ei ddarparu i Faes Awyr Caerdydd, oddeutu £130 miliwn. Nawr, o’r hyn a welaf, mae'r pandemig wedi taro'r sector hedfanaeth yn aruthrol, ac mae angen i lywodraethau ledled y byd gefnogi'r diwydiant—nid oes unrhyw amheuaeth gennyf ynghylch hynny. Ond o’m safbwynt i, rydym wedi gweld miloedd o bunnoedd o arian trethdalwyr eisoes yn cael ei fuddsoddi gan eich Llywodraeth, ac mae llawer o ddyled Maes Awyr Caerdydd wedi’i dileu, ac roedd hynny cyn y pandemig, hyd yn oed.
Felly, credaf mai'r cwestiwn a fydd gan fusnesau bach ledled Cymru yw: a yw’r cydbwysedd yn gywir gennych o ran y cymorth iddynt o’i gymharu â’r symiau enfawr o arian sydd wedi'u rhoi i’r maes awyr ac sydd wedi'u dileu yn y ffordd honno hefyd? Gofynnaf y cwestiwn yn ysbryd hyn—gofynnais gwestiwn ysgrifenedig i chi yr wythnos diwethaf: pryd y mae disgwyl i bedwerydd cam y gronfa rhyddhad economaidd agor? A chefais ateb tua diwedd yr wythnos diwethaf a ddywedai fod Llywodraeth Cymru wrthi’n archwilio opsiynau pellach ar gyfer cefnogi busnesau. Wel, bydd angen i fusnesau wybod pryd y bydd y rownd nesaf o'r gronfa cadernid economaidd yn digwydd. Dyna'r wybodaeth y bydd ei hangen arnynt.
Ac yn olaf, os caf ofyn i chi mewn perthynas â'r cwestiwn cyntaf hwn, mae gennyf eich maniffesto ar gyfer 2016 o fy mlaen: pa ymrwymiadau yn eich maes portffolio na chyflawnwyd yn ystod y tymor pum mlynedd hwn?
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Ni allaf gredu bod Russell wedi bod yn craffu ar fy ngwaith ers pum mlynedd, fel llefarydd y Ceidwadwyr. Mae amser wedi hedfan yn wir, ond mae ei graffu wedi bod yn gadarn ond yn gyson deg ac adeiladol. Felly, hoffwn ddiolch iddo am y rôl y mae wedi'i chwarae yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael ei dwyn i gyfrif am y penderfyniadau y mae wedi’u gwneud a minnau, fel Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth.
Bydd Russell George a’r Aelodau eraill yn ymwybodol o'r effaith ddinistriol y mae'r pandemig wedi'i chael ar y diwydiant hedfan ledled y byd. Yn ddiweddar, nododd Maes Awyr Heathrow golled o £2 biliwn. Rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn darparu £100 miliwn i rai meysydd awyr rhanbarthol yn Lloegr. Rydym wedi gweld Llywodraeth yr Alban yn darparu £17 miliwn i feysydd awyr yr Alban, ac mae Gogledd Iwerddon, yn yr un modd, yn darparu £10 miliwn i'w meysydd awyr hwy. Felly, mae’n dangos sut y mae pob llywodraeth yn ymyrryd. Y gwahaniaeth, wrth gwrs, yw mai Llywodraeth Cymru—pobl Cymru—sy’n berchen ar faes awyr rhyngwladol Caerdydd. Mae'n ased cenedlaethol i bobl Cymru.
Wrth ateb y cwestiwn ynglŷn ag a yw cydbwysedd y cymorth yn briodol ai peidio, hoffwn atgoffa’r Aelodau fod maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn cynnal mwy na 5,000 o swyddi yn anuniongyrchol ac yn cynnal 2,400 o swyddi hedfanaeth. Mae hynny'n cyfateb i oddeutu 4.4 y cant o gyflogaeth yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'n ased economaidd enfawr, a heb gymorth Llywodraeth Cymru, yn fy marn i, byddai wedi methu. Ac felly, mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn cefnogi’r maes awyr fel galluogydd twf ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint. Ac mae gan y maes awyr ragolygon gwych ar gyfer y dyfodol, pan fyddwn wedi cefnu ar y pandemig hwn.
Os edrychwn ar y cyfnod cyn y pandemig, roedd y twf yn y maes awyr yn eithaf syfrdanol. Roedd niferoedd teithwyr wedi cynyddu dros 50 y cant yn ystod y cyfnod ers i Weinidogion Llywodraeth Cymru ddod yn berchen ar, neu ers i bobl Cymru ddod yn berchen ar y maes awyr. A chyda'r cynlluniau uchelgeisiol a nodwyd o dan yr uwchgynllun, ac yn enwedig gyda'r cynlluniau uchelgeisiol mewn perthynas â lleihau carbon, credaf y bydd y maes awyr yn faes awyr rhagorol yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt o ran teithiau awyr carbon isel.
Ac yn olaf, wrth ymateb i’r cwestiwn olaf a ofynnodd Russell George i mi, yr ateb amlwg yw na wnaethom fwrw ymlaen â ffordd liniaru’r M4—. Ni wnaethom fwrw ymlaen â ffordd liniaru’r M4 am resymau y mae’r Prif Weinidog, a minnau ac eraill wedi'u hailadrodd wrth yr Aelodau'n rheolaidd, sef bod yr amgylchiadau wedi newid yn eithaf dramatig dros y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd datganiad o argyfwng hinsawdd yr ydym ni ar draws y Siambr yn gyfrifol am ei gydnabod ac ymateb iddo, ac wrth gwrs, bu modd inni sefydlu comisiwn Burns i gynhyrchu set amgen o argymhellion a gwaith, a oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar welliannau i'r seilwaith rheilffyrdd, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael cyfle i deithio drwy ddulliau ar wahân i geir preifat.
Diolch am eich atebion. Weinidog, ar y cwestiwn olaf hwnnw a ofynnais i chi, rhoesoch sylw i ffordd liniaru’r M4. Roedd hwnnw’n ymrwymiad ym maniffesto Llafur 2016, a ysgrifennwyd, wrth gwrs, gennych chi. Ond mae'r maniffesto hwn gennyf o fy mlaen yn awr, a gallaf weld ei fod yn dweud,
‘Byddwn yn cyflawni band eang cyflym i bob eiddo yng Nghymru’.
Mae eich Dirprwy Weinidog yn ein hatgoffa’n barhaus, pan fydd yn gyfleus iddo wneud hynny, nad mater i Lywodraeth Cymru yw hwn, ond mae wedi’i gynnwys yma ym maniffesto Llywodraeth Cymru. Mae'n sôn am gynlluniau’r metro yng ngogledd a de Cymru. Rydym yn sôn nad yw ffordd liniaru’r M4 yn mynd yn ei blaen, ond ceir ymrwymiad ynddo i wneud gwelliannau i’r A55 a gwelliannau i'r A40 hefyd, nad ydym wedi'u gweld chwaith. Ac mae’n sôn hefyd am fastiau 4G, yn ogystal â thocynnau integredig. Mae cymaint yn y maniffesto sy’n rhan o’ch maes portffolio ac nad yw wedi’i gyflawni, a deallaf fod rhai pethau'n newid. Fe newidioch chi eich safbwynt ar ffordd liniaru’r M4; nid wyf yn cytuno â hynny, ond mae hwnnw’n benderfyniad rydych chi fel Llywodraeth wedi'i wneud. Fy nghwestiwn yw hwn: sut y gall pobl Cymru a'r busnesau bach ymddiried yn eich dull gweithredu wrth symud ymlaen, yn ystod y pandemig ac i mewn i'ch maniffesto nesaf wrth i chi ei ddatblygu cyn yr etholiadau ym mis Mai, pan fo cymaint heb ei gyflawni yn eich maniffesto ar gyfer 2016?
Wel, a gaf fi ddweud yn gyntaf ei bod ond yn deg fy mod yn cael cyfle i dynnu sylw at rai o lwyddiannau mawr Llywodraeth Cymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf mewn perthynas â thrafnidiaeth a seilwaith a'r economi? Cyn y pandemig, roedd gennym y gyfradd gyflogaeth uchaf erioed. Roedd gennym y nifer uchaf o fusnesau yn bodoli yng Nghymru ers datganoli, a chyn datganoli, mae’n rhaid dweud. Roedd anweithgarwch economaidd, yn rhyfeddol, yn prysur agosáu at gyfartaledd y DU, ac roedd ein gwerth ychwanegol gros, ein cynhyrchiant, yn gwella'n gyflymach na chyfartaledd y DU hefyd.
Yn ystod y pandemig, rydym wedi canolbwyntio ar swyddi a swyddi a mwy o swyddi, ac o ganlyniad i'r ffocws hwnnw, mae gennym bellach gyfradd ddiweithdra yng Nghymru sy'n is na chyfartaledd y DU. Mae ffordd bell i fynd o hyd, ond mae gennym gyfradd ddiweithdra sy'n is na chyfartaledd y DU, a hynny am fod gennym Lywodraeth ddatganoledig sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth. Mae'r gwahaniaeth rhwng cyfartaledd y DU a chyfradd ddiweithdra Cymru yn dangos gwerth ein buddsoddiad o £2 biliwn mewn busnesau, ac mae hynny, yn ei dro, drwy ddiogelu mwy na 140,000 o swyddi, yn cynrychioli 10 y cant o weithlu Cymru. Mae'n llwyddiant syfrdanol.
Rydym hefyd wedi sefydlu Banc Datblygu Cymru, a gafodd ei addo yn y maniffesto, a chredaf ei fod bellach yn cael ei gydnabod fel un o'r asedau pwysicaf sydd gennym yng Nghymru. Fe wnaethom hefyd sefydlu Trafnidiaeth Cymru. Rydym wedi gwladoli'r rheilffyrdd. Rydym yn bwrw ymlaen yn raddol â’r rhaglenni metro, ond ni fu bwriad erioed i gyflwyno’r rhaglenni metro mewn un tymor; mae'r rhain yn amcanion hirdymor. Ni chafodd Rhufain ei hadeiladu mewn diwrnod ac ni fydd metros Cymru'n cael eu hadeiladu yn nhymor un weinyddiaeth. Ond rydym yn dechrau'r broses o'u cyflwyno, yng ngogledd Cymru a de Cymru, ac yn raddol hefyd yn ne-orllewin Cymru.
Ar y band eang cyflym, mae'n gwbl gywir nodi bod hwn yn fater a gedwir yn ôl, ond rydym wedi bod yn ymyrryd gyda buddsoddiad y tu hwnt i'r hyn a gawn gan Lywodraeth y DU, a chafwyd gwelliannau sylweddol. Ac mae gwelliannau sylweddol yn parhau i gael eu gwneud i'n rhwydwaith cefnffyrdd, gan gynnwys ar yr A55. Bydd llawer o'r Aelodau yng ngogledd Cymru yn cydnabod y buddsoddiad a wnaed yno, gyda mwy i ddilyn. Ond bydd ein ffocws o ran trafnidiaeth, fel y nodwyd yn strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn symud tuag at hybu teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan sicrhau, wrth inni fuddsoddi mewn seilwaith sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth, ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n tyfu economi deg a mwy cyfartal.
Diolch, Weinidog. Rydych wedi symud yr ateb yn fedrus iawn oddi wrth y cwestiynau a ofynnais, a oedd yn tynnu sylw at rai o'r meysydd nas cyflawnwyd ym maniffesto 2016.
O ran cyhoeddiadau Llywodraeth y DU heddiw a dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, rydym wedi gweld symiau enfawr o arian yn cael eu cyhoeddi gan y Canghellor a fydd yn gallu cefnogi’r twf economaidd yma yng Nghymru o Gaergybi i Bort Talbot, ac rydym wedi gweld cyhoeddiadau'n cael eu gwneud ar gymorth busnes. Felly, gobeithio y gallwch gadarnhau y bydd y seibiant ardrethi busnes hwnnw’n berthnasol yng Nghymru, ac mai dyna fyddwch chi'n ei roi ar waith hefyd. Rydym hefyd wedi gweld symiau enfawr o arian o ran y £12 biliwn gan fanc seilwaith y DU, a fydd, wrth gwrs, o fudd i Gymru hefyd. Felly, symiau enfawr o gymorth wedi'i gyhoeddi gan Ganghellor Llywodraeth y DU.
O ran sicrhau bod economi Cymru yn gweithredu ar ei gorau, af yn ôl at fy mhwyntiau cynharach ynglŷn â bod yn adeiladol yma a’r pleidiau’n cydweithio, ac awgrymodd adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd y dylem sefydlu corff hyd braich fel bod penderfyniadau'n cael eu gwneud nid gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, ond drwy hyrwyddo Cymru ledled y byd gan sefydliad trydydd parti, fel Awdurdod Datblygu Cymru. Rydych wedi bod yn agored i'r awgrym hwnnw yn y gorffennol; credaf yn gryf mai dyna'r dull cywir, gan y credaf fod angen inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod ein heconomi'n gweithredu ar ei gorau. Tybed a fyddech hefyd yn cytuno bod hwn yn faes pwysig i’w ddatblygu wrth inni ddatblygu economi Cymru. Mae gennym y biliynau o bunnoedd hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddarparu ar gyfer y DU, gan gynnwys Cymru, ac un ffordd o wneud hynny yw drwy'r corff hyd braich y soniwyd amdano yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei set olaf o gwestiynau a dweud ein bod wedi bod yn hynod uchelgeisiol yn ystod tymor y weinyddiaeth gyfredol? Fe wnaethom sefydlu Banc Datblygu Cymru—y banc datblygu rhanbarthol mawr cyntaf yn y Deyrnas Unedig—ac mae hwnnw wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Felly, nid ydym yn ofni sefydlu cyrff newydd i hybu ffyniant. Rwy'n croesawu gwaith y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn craffu ar economi a strwythurau Cymru ar gyfer buddsoddi a datblygu economaidd.
Byddwn yn gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn y misoedd i ddod gyda'r bwriad o ymateb yn fanwl i'r argymhellion. Rwy'n agored i syniadau ac rwyf wedi bod yn agored i syniadau dros y pum mlynedd diwethaf, ond mae'n rhaid inni sicrhau nad yw datblygiad unrhyw asiantaethau neu gyrff newydd yn dyblygu'r hyn sy'n cael ei gyflawni ar hyn o bryd ac a gyflawnir yn y dyfodol. Rwy'n credu felly fod yn rhaid inni ystyried rôl y cyd-bwyllgorau corfforedig sy'n cael eu sefydlu, sy'n dod ag awdurdodau lleol ynghyd ar sail ranbarthol. Maent yn ddatblygiad pwysig tu hwnt ac ni fyddwn yn dymuno gweld eu llwyddiant yn cael ei amharu na'i beryglu drwy ddatblygiad cyflym rhyw hanner syniad ynghylch asiantaethau datblygu rhanbarthol. A dyna pam ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn ystyried yn ofalus yr hyn y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi'i argymell, ac yn ystyried a fyddai angen asiantaethau o'r fath yng ngoleuni’r cyd-bwyllgorau corfforedig, ac os felly, a fyddent yn ddymunol. Ac mae'n rhaid inni wneud hynny mewn partneriaeth gymdeithasol ag awdurdodau lleol, gyda busnes, gyda'r undebau a chyda rhanddeiliaid allweddol.