Adferiad Economaidd Canol Dinas Caerdydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:20, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Fel rhan o'n dull Trawsnewid Trefi, mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid mewn llywodraeth leol wedi mabwysiadu'r egwyddor 'canol y dref yn gyntaf' sydd mor bwysig ar hyd a lled Cymru. Mae Cyngor Caerdydd wedi cael dros £3.5 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi hyd yma. Mae ymyriadau posibl yn cynnwys buddsoddiadau mewn technoleg ddigidol, seilwaith gwyrdd, eiddo preswyl a masnachol a theithio llesol.