1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 3 Mawrth 2021.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi adferiad economaidd canol dinas Caerdydd yn sgil y pandemig? OQ56358
Fel rhan o'n dull Trawsnewid Trefi, mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid mewn llywodraeth leol wedi mabwysiadu'r egwyddor 'canol y dref yn gyntaf' sydd mor bwysig ar hyd a lled Cymru. Mae Cyngor Caerdydd wedi cael dros £3.5 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi hyd yma. Mae ymyriadau posibl yn cynnwys buddsoddiadau mewn technoleg ddigidol, seilwaith gwyrdd, eiddo preswyl a masnachol a theithio llesol.
Diolch am hynny, a hoffwn innau hefyd ychwanegu fy sylwadau caredig am y ffordd wych rydych wedi targedu adnoddau cyfyngedig i ategu'r hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU i gefnogi busnesau fel gyrwyr tacsis a gweithwyr llawrydd fel cerddorion, rhywbeth sydd wedi cael ei werthfawrogi'n fawr.
Ond gan droi'n ôl at yr heriau sy'n wynebu canol dinas Caerdydd, yn amlwg, mae gennym lawer o bwyntiau gwerthu unigryw, fel stadiwm y mileniwm, fel yr amrywiaeth o leoliadau perfformio gwych gyda'r siopau, y bwytai a'r caffis cyfagos, a dyna pam y mae pobl yn hoffi dod i ganol y ddinas. Mae BT Openreach wedi fy sicrhau bod gennym fand eang ffeibr cyflym iawn dros y rhan fwyaf o ganol y ddinas, felly gallwn feddwl am hybiau gweithio o bell. Ond mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn cynnwys y ffaith bod cwmnïau fel Debenhams a Howells wedi cael eu prynu gan gwmnïau nad oes ganddynt ddiddordeb mewn masnachu ar y stryd fawr, ac mae angen i ni addasu'r adeiladau hyn at ddibenion gwahanol er mwyn cynnal teimlad bywiog a chlos canol y ddinas. Ac eto, rydym yn dal i foddi mewn cynigion gan ddatblygwyr adeiladau uchel iawn a allai waethygu gorgyflenwad posibl o swyddfeydd a siopau. Felly, rwyf wedi bod yn siarad gyda FOR Cardiff, sy'n arwain yr ardal gwella busnes, a chydag etholwyr, ynglŷn â sut y gallwn ailadeiladu'r bywiogrwydd hwnnw i fod yn wyrddach, yn decach ac yn gynaliadwy. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i sicrhau bod pa gyfalaf bynnag sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i gyflawni ein hamcanion datblygu cynaliadwy i adeiladu nôl yn decach?
A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn heddiw, a hefyd am yr ymgyrchoedd niferus y mae wedi'u harwain yn ystod y tymor hwn, ac yn arbennig yn ystod y pandemig hwn? Mae'r ffordd y mae wedi cefnogi a dadlau achos gyrwyr tacsis a gweithwyr llawrydd, yn enwedig gweithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol sy'n gwneud cymaint dros Gaerdydd—rwyf o'r farn mai rhai o'r dinasoedd mwyaf creadigol ar y blaned hon yw'r lleoedd mwyaf deniadol i fyw ynddynt, ac felly mae gan y diwydiannau creadigol rôl enfawr yn creu lleoedd a gwella awyrgylch, estheteg ac atyniad ein lleoedd.
Ar y cwestiwn a ofynnodd Jenny Rathbone, yn amlwg, drwy'r fenter Trawsnewid Trefi y mae Hannah Blythyn yn ei harwain, mae gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae'n cefnogi'r gwaith o drawsnewid canol trefi a dinasoedd yn lleoedd sy'n fwy deniadol, sy'n fwy addas ar gyfer gweithgareddau hamdden a gweithgareddau cymdeithasol, mewn ffordd nad yw'n dibynnu ar fanwerthu yn unig, ond sy'n ategu manwerthu. Mae llywodraeth leol yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn o beth hefyd. Mae cyngor dinas Caerdydd wedi bod yn eithaf anhygoel yn y ffordd y mae wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chydag awdurdodau lleol partner ar draws y rhanbarth i hyrwyddo'r ymdeimlad hwnnw o lesiant yn ein cymunedau trefol. Felly, rydym yn awyddus, a byddwn yn parhau i fod yn awyddus i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod ganddynt y seilwaith cywir ar waith i hyrwyddo datblygiad economaidd mewn ffordd gynaliadwy, gan gynnwys seilwaith digidol, a'u bod yn datblygu eu mannau trefol mewn ffordd sy'n hyrwyddo adferiad gwyrdd. Mae hynny'n cynnwys gwneud ein hamgylchedd yn fwy gwyrdd, mae'n cynnwys cynllunio defnydd tir yn well, wedi'i integreiddio â chynllunio seilwaith trafnidiaeth, a dyma'r math o ddatblygiad rydym eisiau ei weld ledled Cymru.