Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Yr wythnos diwethaf, pan gyhoeddodd y Gweinidog Ken Skates y genhadaeth i ailadeiladu economi Cymru, roeddwn yn falch iawn ei bod yn ymgorffori'r egwyddor o ganol y dref yn gyntaf. Nawr, rwy'n arbennig o awyddus i sicrhau dyfodol digidol sydd wedi'i gysylltu'n well a fydd yn cyd-fynd â datblygiadau fel yr orsaf fysiau newydd, gwasanaethau metro, gwelliannau i ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac yn y blaen. Felly, a allwch chi gadarnhau, fel rhan o'r newid hwn, y byddwn yn helpu i ddarparu stryd fawr ddigidol, gan sicrhau y gall cyfleusterau masnachol, hamdden a lletygarwch ddarparu'r cynnig digidol gorau i ategu'r defnydd hyblyg ac amlweddog y bydd ei angen ar drefi ein Cymoedd yn y blynyddoedd i ddod?