Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddweud pa mor bleserus bob amser yw dilyn Janet Finch-Saunders yng nghwestiynau'r llefarwyr? Roeddwn i'n mynd i ddechrau gyda chodi'r gwastad hefyd, Weinidog, a barn wahanol efallai. Fis Gorffennaf diwethaf, fe gofiwch, gofynnais i chi beth roeddech chi'n ei wneud i ymladd yn erbyn Bil marchnad fewnol Llywodraeth y DU, Bil sy'n cipio pŵer. Ym mis Rhagfyr, gofynnais beth roeddech chi'n ei wneud i sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli yn y negodiadau Brexit. Fe fyddwch yn cofio hynny hefyd. Fis diwethaf, gofynnais beth rydych yn ei wneud i sicrhau nad oedd Cymru ar ei cholled fel rhan o gynigion cronfa ffyniant gyffredin y DU, ac rydym wedi clywed mwy am hynny heddiw. Aeth wythnos arall heibio a dyma ni eto'n trafod ymgais ddiweddaraf y Torïaid yn San Steffan i danseilio democratiaeth Cymru. Felly, fel y gwyddoch, cyhoeddwyd y gronfa codi'r gwastad gan San Steffan y llynedd, cronfa y dywedir ei bod yn agored i bob ardal yn Lloegr. O dan gynlluniau blaenorol, byddai Cymru'n cael ein cyfran o'r £800 miliwn drwy fformiwla Barnett a byddem yn ei wario'n unol â'n blaenoriaethau yma. Mae Trysorlys San Steffan bellach wedi cyhoeddi y byddant yn penderfynu sut y caiff yr un £800 miliwn ei wario yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac ni chaiff cyllid i Gymru ei neilltuo. Rwy'n cofnodi hynny, Weinidog, i'ch helpu yma. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, yn hytrach na chodi'r gwastad, fod y cynigion diweddaraf hyn yn gwasgaru adnoddau'n deneuach, gan fynd â'n harian o lle mae ei angen fwyaf, a bod codi'r gwastad, i Gymru, yn golygu bod ar ein colled?