Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:54, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno â Dai Lloyd, o ran maint y cyllid a'r ffaith nad yw wedi'i neilltuo i Gymru, fod y syniad mai cronfa codi'r gwastad yw hon yn ddisgrifiad anghywir. Mae ffordd well o wneud hyn. Mae arian sylweddol ar gael yn amlwg, ond mae yna ffordd o'i wneud sy'n adlewyrchu anghenion busnesau a chymunedau yng Nghymru mewn gwirionedd ac fel y dywedais yn gynharach wrth ateb cwestiynau cynharach, ffordd sy'n adlewyrchu'r dull rydym wedi ceisio'i ddilyn fel Llywodraeth o weithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu fframwaith ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, yn hytrach na chael rhywbeth sy'n ddewisol yn yr ystyr honno.

Byddwn yn dweud wrtho fy mod yn credu bod y ffordd y dechreuodd ei gwestiwn yn iawn, os caf ddweud, i gydnabod mai Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yw hon sy'n mynd ar drywydd y dull hwn. Credaf ei bod yn bosibl gwneud i hyn weithio ar sail y DU gyfan gydag ewyllys wleidyddol mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion Cymru'n well o lawer, a dyna'r weledigaeth sydd gennym ni fel Plaid Lafur Cymru a Llywodraeth a arweinir gan Lafur Cymru ar gyfer cyllid rhanbarthol yn y dyfodol.