Astudio Dramor

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:10, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Roeddwn yn meddwl y byddem yn cael llai o dristwch ac anobaith, ond dyna ni. A dweud y gwir, rwy’n eithaf hapus â chyllideb Llywodraeth y DU heddiw, ac roeddwn wedi meddwl y gallem fod wedi rhannu peth o'r hapusrwydd hwnnw.

Nawr, fel y gobeithiaf y byddwch yn cytuno, roedd y cyhoeddiad am y Cynllun Turing newydd gwerth £110 miliwn yn newyddion gwych. Bydd y prosiect arloesol yn cynorthwyo myfyrwyr o bob rhan o'r DU ac o bob cefndir i fanteisio ar fanteision astudio a gweithio dramor o fis Medi 2021. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth y DU mor ymrwymedig i helpu i godi'r gwastad gyda chyfleoedd i bobl ledled y wlad fel y bydd y cynllun yn ceisio targedu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Mae Llywodraeth y DU wedi ein symud o ganolbwyntio ar yr UE i fod ag agenda addysg fyd-eang ragweithiol.

Fel y dywedodd prif weithredwr Cymdeithas y Colegau,

Mae cynllun Turing yn agor drws y byd i leoliadau gweithio ac astudio ar gyfer myfyrwyr coleg.

Nawr, yn eich cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio, rydych yn nodi y byddai Llywodraeth Cymru

‘yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau parhad y cyfranogiad yn Erasmus+ o 2021-22 ymlaen’.

A wnewch chi adolygu'r safbwynt hwn yn awr, a chefnogi ein myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yng Nghymru drwy ddefnyddio Cynllun Turing i estyn allan i'r byd? Ac a wnewch chi ddechrau edrych yn awr, Gwnsler Cyffredinol, ar fod yn fwy blaengar? Diolch.