Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 3 Mawrth 2021.
Wel, yn sicr, rwy’n rhannu uchelgais unrhyw un sy’n dymuno gweld myfyrwyr o Gymru yn gallu manteisio i'r eithaf ar y mathau o gyfleoedd rhyngwladol a oedd ar gael iddynt o dan Erasmus ac a fyddai ar gael ar sail ehangach fyth o dan y cynllun a fydd yn cymryd ei le. Credaf ei fod yn rhan bwysig iawn o'n diwylliant ac yn rhan bwysig iawn o'n safbwynt rhyngwladol, os caf ddweud. Ond credaf mai'r gwir amdani yw bod Cynllun Turing wedi'i danariannu'n sylweddol o'i gymharu ag Erasmus, a'r gwir amdani yw y bydd, mewn gwirionedd, yn lleihau cyfleoedd.
Nid tristwch ac anobaith yw hyn, fel y mae'r Aelod yn fwyfwy hoff o nodi; y gwir amdani yw na fydd Cynllun Turing yn darparu'r un cyfleoedd i bobl mewn addysg bellach neu mewn ysgolion, ac mae'n anwybyddu'r sector ieuenctid bron yn llwyr. Roedd cynllun Erasmus+ yn welliant sylweddol iawn o ran ei allgymorth i gyfranogwyr mwy difreintiedig, ac ni fydd y trefniadau newydd cystal â'r cynllun hwnnw yn fy marn i. Ni chredaf fod esgus bod y mathau hyn o gynlluniau yn rhyw fath o ddewis amgen gogoneddus o fudd i unrhyw un; nid yw hynny’n wir. Nawr, mae Cynllun Turing yn sawl peth, ond yn sicr, nid yw’r math o gynllun a ddisgrifiodd yr Aelod yn ei chwestiwn, sef un sy'n cynnig y mathau o gyfleoedd y mae myfyrwyr Cymru wedi arfer â hwy.