Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:43, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi fod angen i ni roi hwb i dwf economaidd ôl-Brexit yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth y DU yn cydweithio â'r gweinyddiaethau datganoledig i sefydlu o leiaf un porthladd rhydd ym mhob gwlad yn y DU. Yma, yng ngogledd Cymru wrth gwrs, rydym yn ffodus o gael Virginia Crosbie, AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig dros Ynys Môn, yn arwain Consortiwm Cais Porthladd Rhydd Ynys Môn, ochr yn ochr ag M-SParc, Prifysgol Bangor, Stena Line, Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Fel yr unig gais yng Nghymru i gynnwys prifysgol, gallai'r porthladd rhydd ddenu cyflogwyr newydd mawr, gan ddod â chyflogaeth barhaol i hybu'r gadwyn gyflenwi ar draws y rhanbarth cyfan. Mae'n amlwg, o'ch 'Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio 2020', fodd bynnag, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phorthladdoedd a'r awdurdodau lleol perthnasol i ystyried anghenion porthladdoedd unigol. Felly, a fyddech yn cofnodi eich bod yn llwyr gefnogi Caergybi fel y prif ymgeisydd i fod yn borthladd rhydd yng Nghymru fel ffordd o ddefnyddio'r porthladd ar ôl Brexit?