Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 3 Mawrth 2021.
Wel, rwy'n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am nodi anghenion porthladdoedd, a'r economïau sy'n agos at borthladdoedd, fel rhai sydd angen cymorth penodol o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n sicr yn wir, ac yn sicr ddigon, ein dull gweithredu fel Llywodraeth yw'r un a ddisgrifiodd yn ei chwestiwn, sef gweithio gyda phorthladdoedd, awdurdodau porthladdoedd, cludwyr a busnesau a'r Llywodraethau, wrth gwrs, i hyrwyddo eu buddiannau. Os yw Llywodraeth y DU yn ceisio cefnogi datblygiad porthladd rhydd yng Nghymru, wrth ddarparu cyllid ar gyfer hynny, tybed a yw'n cytuno na ddylai hynny fod yn seiliedig ar swm canlyniadol Barnett, a fyddai'n sicrhau tua 5 y cant o gyfanswm y gost, ond ar sail buddsoddiad llawer mwy sylweddol o tua 10 y cant, sef tua un porthladd allan o nod Llywodraeth y DU o 10 ledled y DU. Felly, byddwn yn falch pe bai'n cadarnhau ei bod o'r farn bod gweithredu ar sail swm canlyniadol Barnett yn annigonol ar gyfer datblygu'r math o gynnig y mae'n ei gefnogi.