Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:59, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr na ddylid diystyru'r rhain fel problemau cychwynnol. Maent yn broblemau i'w hystyried o ddifrif, ac rydym yn gwneud hynny fel Llywodraeth oherwydd y rhesymau y mae'r Aelod yn eu hamlinellu yn ei gwestiwn. Rydym yn glir iawn fod y bont dir rhwng Iwerddon a thir mawr Ewrop yn bwysig iawn i ni yn strategol, ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i ddatrys hyn. Fel y gŵyr yr Aelod, o ran yr hyn sydd wedi'i gadw'n ôl a'i ddatganoli yn y gofod hwn, mae'r materion penodol sy'n achosi'r heriau yn rhai a gadwyd yn ôl mewn gwirionedd. Ond rydym wedi gweithio, ac rydym yn parhau i weithio, gyda Llywodraeth y DU, gyda Llywodraeth Iwerddon ac eraill i geisio datrys hyn, gan weithio'n fwy eang hefyd gyda'r ystod o randdeiliaid perthnasol i ddatblygu cynllun gweithredu pendant i geisio datrys rhywfaint o hyn. Rwyf am fod yn glir iawn ein bod yn ystyried hwn yn faes pwysig i'w ddatrys, a'r neges allweddol a gawn gan randdeiliaid yw ei bod yn costio llawer mwy mewn rhai achosion i deithio ar y llwybrau uniongyrchol rhwng Iwerddon ac Ewrop. Felly, mae'n ymddangos i ni fod cyfle pwysig i ni yno i ddod o hyd i ateb i hyn fel y gallwn adfer y bont dir fel y prif lwybr tramwy yn y ffordd y byddai pawb ohonom yn dymuno ei gweld.