Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:57, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Os caf droi yn fy nghwestiwn olaf at Brexit a phorthladdoedd, rydym wedi clywed tipyn, ond gyda gogwydd ychydig yn wahanol. Yn amlwg, tan fis Rhagfyr, ac nid yw hynny ond deufis yn ôl, Caergybi oedd y porthladd fferi gyrru mewn ac allan prysuraf ond un yn y Deyrnas Unedig ar ôl Dover. Roedd tua 450,000 o lorïau'n gyrru drwodd bob blwyddyn ar eu ffordd i Ddulyn, gyda chargo cig, cynnyrch amaethyddol, ceir ail-law ac eitemau ar gyfer silffoedd archfarchnadoedd Iwerddon, i gyd yn llifo drwy Gaergybi. Mae ymadawiad y DU â'r UE wedi newid hynny i gyd, yn amlwg. Mewn cwta saith wythnos, mae cyfeintiau nwyddau wedi gostwng 50 y cant. Mae perchennog y porthladd, Stena Line, yn rhybuddio y gallai'r cwymp fod yn barhaol, ac rydym yn gweld llwybrau môr newydd yn agor. Yn amlwg, bydd y Gweinidog wedi astudio'r mapiau, fel finnau. Mae gennym Ddulyn, Rosslare a Cork ar y naill ochr, a llwybrau môr newydd yn agor i Roscoff, Cherbourg a Dunkirk ar yr ochr arall, gan osgoi Cymru'n gyfan gwbl. Felly, a gaf fi ofyn, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ymhellach fod hyn yn dangos bod y problemau sy'n codi yng Nghaergybi a phorthladdoedd eraill Cymru'n dangos bod Brexit yn cael effaith wirioneddol andwyol ar economi Cymru ac nad problemau cychwynnol a dros dro yn unig mo'r rhain?