Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dyma ein hail adroddiad ar effaith COVID-19 ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar iechyd meddwl a llesiant. Yn ogystal ag argymhellion manwl, daethom i un casgliad cyffredinol, sef mae’n bwysicach nawr nag erioed bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y gwelliannau angenrheidiol a nodwyd yn ein hadroddiad yn 2018 ar atal hunanladdiad ac yn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘Cadernid Meddwl’.
Mae COVID-19 wedi achosi sawl her o ran ei effeithiau corfforol, ond hefyd o ran ei effaith ar lesiant meddyliol ac emosiynol pobl. Mae bod heb gyswllt efo'ch teulu, eich ffrindiau a rhwydweithiau cymorth eraill am gyfnodau hir o amser wedi cael effaith sylweddol. Rydym yn gwybod bod mwy na hanner yr oedolion a thri chwarter y bobl ifanc yn teimlo bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Rydym hefyd yn hynod bryderus am lesiant preswylwyr cartrefi gofal, yn enwedig y bobl sydd efo dementia. Mae niwed sylweddol yn cael ei achosi gan fod ar wahân am gyfnodau hir yn sgîl y cyfyngiadau parhaus ar ymweliadau efo chartrefi gofal. Rydym yn deall y pryderon sy'n wynebu rheolwyr cartrefi gofal, wrth gwrs, ond rhaid cydbwyso'r risg o niwed yn sgîl y coronafeirws â'r risg i iechyd a llesiant preswylwyr sy'n deillio o fod ar wahân oddi wrth eu hanwyliaid am gyfnod mor hir.
Mae’r pandemig hefyd wedi cael effaith ddwys ar benderfynyddion ehangach iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys ffactorau economaidd, ffactorau cymdeithasol, ffactorau amgylcheddol a ffactorau addysgol. Mae wedi amlygu a dwysáu'r anghydraddoldebau mewn cymdeithas. Bydd llawer o amser yn mynd heibio cyn y deallir effaith lawn y pandemig ar iechyd meddwl ac iechyd emosiynol y genedl. Roedd yn amlwg bod gwasanaethau iechyd meddwl o dan bwysau sylweddol cyn COVID-19 hyd yn oed, a dim ond cynyddu a wnaiff y galw hwnnw.
Bydd anghenion pobl yn wahanol. Mae'r pandemig wedi gwaethygu'r ffactorau risg sy'n hysbys ar gyfer hunanladdiad a hunan-niweidio, fel unigrwydd, unigedd, diffyg ymdeimlad o berthyn a diffyg galwedigaeth ystyrlon. Efallai na fydd rhai pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl parhaus wedi gallu cael gafael ar eu gwasanaethau arferol ers cryn amser, a bydd mwy o angen arnyn nhw nawr nag erioed o’r blaen. Bydd rhai pobl wedi cael profedigaethau yn ystod y pandemig, neu o ganlyniad iddo. Nid yw colli anwyliaid byth yn hawdd, ond mae’n siŵr bod mynd drwy hyn ar adeg pan na allwch fod gyda nhw ar ddiwedd eu hoes, ac nad oes modd bod yng nghwmni teulu a ffrindiau i gael cefnogaeth, yn effeithio ar allu pobl i ddygymod efo’u colled.
Efallai yr effeithir ar bobl eraill nad ydynt erioed wedi cael problemau iechyd meddwl o’r blaen gan y trawma ar lefel y boblogaeth yn gyffredinol. Teimladau o bryder, tristwch a cholled, mae’r rhain yn ymatebion naturiol i sefyllfa frawychus ac mae’n bwysig peidio â’u hystyried yn or-feddygol. Rhaid bod cefnogaeth briodol, fodd bynnag, ar gael i bawb sydd ei hangen. Rhaid i hyn gwmpasu’r amrywiaeth o anghenion iechyd meddwl, o gymorth lefel isel i gymorth ymyrraeth gynnar, i wasanaethau mwy arbenigol a gofal mewn argyfwng. Dylai hefyd gynnwys gwasanaethau hygyrch o ansawdd da mewn profedigaeth.
Rhaid i’r gwasanaeth a’r gefnogaeth gywir hefyd fod ar waith ar gyfer staff iechyd, gofal cymdeithasol a staff rheng flaen eraill sydd wedi gweld llwyth gwaith cynyddol, prinder staff, trawma yn y gweithle a cholli ffrindiau, cydweithwyr a defnyddwyr gwasanaethau. Heb gefnogaeth eu hunain, maent mewn perygl o fynd yn sâl oherwydd straen neu anawsterau iechyd meddwl eraill o ganlyniad i gael eu llethu’n gorfforol neu yn emosiynol.
Nawr, fel pwyllgor, rydym wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at yr angen am gydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Cyn y pandemig roeddem yn pryderu nad oedd cynnydd digonol yn cael ei wneud yn hyn o beth, ac rydym yn ofni na fydd COVID-19 ond yn ei rwystro ymhellach. Os ydym am sicrhau cydraddoldeb, rhaid i iechyd meddwl fod yn ystyriaeth allweddol wrth i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer adferiad. Mae hyn yn gofyn am ddull ar sail iechyd cyhoeddus o ymdrin ag iechyd meddwl sy’n ymwneud â hyrwyddo llesiant, atal salwch meddwl ac ymyrraeth gynnar, ac sy’n rhychwantu adrannau’r Llywodraeth a phob sector o’r gymdeithas. Mae angen inni weld cydweithio gwell a chyd-ddealltwriaeth glir ar draws y Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ynghylch pwysigrwydd iechyd meddwl y cyhoedd a model cyllido sy’n cefnogi hyn.
Rydyn ni'n diolch i’r Gweinidog am ei hymateb i’n hadroddiad ni fel pwyllgor. Rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod ein holl argymhellion wedi’u derbyn, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor. Fodd bynnag, fel sy’n digwydd yn aml gydag ymatebion Llywodraeth Cymru, mae’r naratif yn dweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud eisoes yn hytrach na mynd i’r afael â’n hargymhellion penodol. Mewn ymateb i’n galwad am ddiweddariad ysgrifenedig ar weithredu ein hargymhellion ac argymhellion y pwyllgor plant, dywed yr ymateb, a dwi'n dyfynnu:
'bydd y Pwyllgor yn deall bod gweithredu’r argymhellion eang yn rhaglen waith sylweddol, a bod angen cydbwyso hynny â gweithredu ein hymatebion i adroddiadau cysylltiedig eraill y Pwyllgor a’r ymrwymiadau a nodir yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl—Cynllun Cyflawni. Dylid cydnabod bod y rhaglen waith i gyflawni’r gwelliannau yn mynd y tu hwnt i’r tymor hwn.'
Diwedd y dyfynnu.
Pan ddaw, rhaid i’r diweddariad ysgrifenedig fynd i’r afael â’n hargymhellion penodol. Rhaid iddo hefyd ddarparu amserlenni manwl fel y gallwn gael ymdeimlad clir o’r hyn a gyflawnwyd a beth arall sydd angen ei wneud, ac erbyn pryd. Byddem yn annog yn benodol i waith y grŵp gorchwyl a gorffen ar gadw golwg ar ddata atal hunanladdiad gael ei ddatblygu fel blaenoriaeth frys.
Rydym yn cydnabod bod y rhain yn amseroedd anodd iawn, ac nad tasg fach yw gweithredu rhai o’n hargymhellion, ond ni allwn fforddio peidio â gwneud hyn. Mae wedi bod yn amlwg ers amser maith beth sydd angen inni ei wneud i wella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni nawr wneud newidiadau er mwyn osgoi rhagor o ddioddefaint a marwolaethau diangen y gall fod modd eu hatal. Diolch yn fawr.