Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am gymryd yr amser i ystyried y pwnc pwysig yma? Rwy'n croesawu'r adroddiad a'r canfyddiadau sydd ynddo. Dwi'n cefnogi ac yn derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor holl argymhellion y pwyllgor. Mae lot fawr yn yr adroddiad, a dwi ddim yn meddwl y caf amser i fynd drwy bob peth y prynhawn yma, ond dwi eisiau cymryd y cyfle nid yn unig i ddiolch i chi, ond hefyd i ddiolch i'r holl staff ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed i drin a gofalu am nid yn unig y rheini sydd wedi bod yn dioddef o COVID-19, ond hefyd y rhai sy'n gofalu am gleifion eraill oedd ag anghenion brys, ac hefyd pobl eraill yn y sector iechyd oedd yn gofalu am y bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau ni.
Mae'r 11 mis diwethaf wedi bod yn ddi-baid, ac mae'r pandemig yn amlwg wedi cael effaith sylweddol ar ein cymunedau ni, ein cleifion a'n staff ni, a dwi'n cydnabod yn llawn y gofynion corfforol ac emosiynol anhygoel sydd wedi codi o ganlyniad i hyn. Rydym ni'n deall yn union yr effaith aruthrol sydd wedi bod ar iechyd meddwl y genedl, ond mae'n glir nad oes darlun llawn gennym ni eto o beth fydd yr effeithiau hirdymor a allai godi o ganlyniad i'r pandemig yn y maes iechyd meddwl. Dwi'n llwyr ddeall bod rhaid i effaith iechyd meddwl sy'n deillio o'r pandemig fod yn ganolog i'n hymateb ni i'r cynlluniau adfer, ac mae'n amlwg hefyd fod rhai wedi dioddef lot fwy nag eraill yn y sefyllfa yma, ac mae'n rhaid i ni fod yn sensitif i hynny hefyd.