Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch. Unwaith eto, ar ran y Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i drefnu'r ddadl hon. Fel yr un rydym newydd ei chynnal, mae'r ddadl hon hefyd yn seiliedig ar ddwy ddeiseb. Mae'r rhain yn ymwneud â'r cynnig ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre yng Nghaerdydd. Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cynnig adeiladu canolfan newydd ar dir i'r gogledd o'i safle presennol yn yr Eglwys Newydd, gogledd Caerdydd. Byddai'n cymryd lle ei gyfleusterau presennol, sydd wedi bod yn weithredol ers 60 mlynedd. Mae'r ymddiriedolaeth wedi datgan nad oes gan y ganolfan bresennol gyfleusterau na lle i ddiwallu anghenion y nifer cynyddol o bobl sy'n cael diagnosis o ganser.
Eu bwriad ar gyfer yr adeilad newydd yw darparu cyfleusterau modern i drin mwy o gleifion a helpu pobl i fyw'n hwy gyda chanser. Yn amodol ar gymeradwyaeth a chyllid, disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2022 a bydd y ganolfan newydd yn weithredol o 2024. Nawr, mae'r cynlluniau wedi wynebu gwrthwynebiad a chefnogaeth sylweddol yn lleol. Derbyniwyd deisebau'n mynegi'r ddau safbwynt. Felly, fe amlinellaf fanylion y ddwy yn fyr yn awr.
Cyflwynwyd y ddeiseb gyntaf gan Amelia Thomas ar ran Ymgyrch Achub y Dolydd Gogleddol. Casglodd 5,348 o lofnodion ac mae'n galw am ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer Canolfan Ganser newydd arfaethedig Felindre. Mae'r grŵp y tu ôl i'r ddeiseb hon wedi mynegi nifer o bryderon ynglŷn â'r cynigion. Wrth agor y ddadl hon, nid oes gennyf amser i gyfeirio at bob un ohonynt, ond gellir eu crynhoi'n ddwy brif elfen, ac mae'r ddwy ohonynt yn ymwneud â lleoliad arfaethedig y ganolfan.
Yr elfen gyntaf sy'n peri pryder i'r deisebwyr yw colli man gwyrdd a adwaenir yn lleol fel y dolydd gogleddol. Dyma lle mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn cynnig adeiladu'r ganolfan ganser newydd, yn agos at eu safle presennol. Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro sy'n berchen ar y tir ac mae cyngor Caerdydd wedi rhoi caniatâd cynllunio amlinellol o'r blaen ar gyfer tai ar y safle. Mae'r deisebwyr yn mynegi pryder ynglŷn â cholli mannau gwyrdd am resymau ecolegol ac amgylcheddol, yn ogystal ag mewn perthynas â'r effeithiau ar drigolion lleol. Maent hefyd wedi nodi pryderon ynglŷn â llifogydd.
Mae'r ail brif bryder yn ymwneud ag ai safle pwrpasol yw'r model cywir ar gyfer gwasanaethau canser yn y dyfodol. Mae'r deisebwyr, yn ogystal â rhai clinigwyr, wedi dadlau y byddai'r ganolfan yn well o'i chydleoli ar safle ysbyty acíwt. Maent yn tynnu sylw at ddatblygiad parhaus triniaethau canser cymhleth, y dywedant eu bod yn golygu bod cydleoli yn fodel hirdymor mwy addas, gyda thriniaethau anlawfeddygol yn cael eu darparu yn yr un lleoliad â gofal acíwt a llawdriniaethau. Yn y pen draw, mae'r deisebwyr wedi galw am i'r cynnig fod yn destun adolygiad clinigol annibynnol cyn i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ynglŷn ag a ddylid cefnogi'r achos busnes dros y ganolfan newydd.
Rwy'n symud yn awr at yr ail ddeiseb. Mae hon yn cefnogi'r cynigion ar gyfer y ganolfan newydd ac fe'i cyflwynwyd mewn ymateb i'r ddeiseb gyntaf. Mae'n galw ar y Llywodraeth i gefnogi'r cynlluniau i adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, ac fe'i cyflwynwyd gan Natasha Hamilton-Ash gyda chyfanswm o 11,392 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn tynnu sylw at y manteision y bydd ysbyty newydd yn eu cynnig i gleifion, gan ddweud bod ei angen ar frys i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol i wasanaethau. Maent yn dadlau y bydd mewn lleoliad haws ei gyrraedd ar gyfer y mwyafrif llethol o gleifion, yn ogystal â gallu darparu gwasanaethau addas i'r diben i nifer gynyddol o gleifion mewn cyfleuster modern. Maent wedi dadlau y bydd y lleoliad arfaethedig, mewn man gwyrdd gyda gwell mynediad, yn ffactor cadarnhaol ac y bydd yn helpu cleifion i wella, oherwydd y lleoliad naturiol a'r bensaernïaeth iachaol.
Yn gyffredinol, y brif farn a fynegwyd yn gryf gan y rhai sy'n cefnogi'r ddeiseb hon yw'r angen am ganolfan newydd cyn gynted â phosibl, gan dynnu sylw at gyfleusterau a maint annigonol y safle presennol. Mae'r deisebwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r cynlluniau presennol a chefnogi Ymddiriedolaeth GIG Felindre i adeiladu'r ganolfan cyn gynted â phosibl.
Nawr, ceir llawer mwy o fanylion yn sail i'r ddwy ddeiseb, ond mae'r amser sydd ar gael inni yn mynnu y dylwn dynnu'r sylwadau agoriadol hyn i ben yn awr. Rwy'n siŵr y bydd gan Aelodau eraill bwyntiau y maent am eu gwneud am ddwy ochr y ddadl hon. Rwy'n gobeithio hefyd y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni heddiw am y sefyllfa bresennol yn ei ymateb i'r ddadl. Mae'r Pwyllgor Deisebau yn ymwybodol fod cyfyngiadau'n ei atal rhag cynnig barn ehangach ar y datblygiad, o ystyried ei rôl yn gwneud penderfyniadau terfynol ar y cynnig hwn. Serch hynny, rwy'n siŵr y byddai pawb sy'n gysylltiedig â hyn yn croesawu unrhyw wybodaeth neu eglurder pellach ynglŷn â pha bryd a sut y gwneir y penderfyniadau hynny. Diolch.