Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 9 Mawrth 2021.
Diolch. Prif Weinidog, roedd Neuadd Cinmel yn y penawdau unwaith eto yn ddiweddar. Mae wedi cael ei alw yn Versailles Cymru, ond mae wedi dadfeilio i gyflwr peryglus, ac mae'r darn hwn o dreftadaeth Cymru mewn perygl difrifol iawn o gael ei golli am byth, er ei fod yn adeilad rhestredig gradd I. Rwy'n gweld mai un o flaenoriaethau cyntaf Cadw yw gofalu am yr amgylchedd hanesyddol. Prif Weinidog, beth yw diben y system restru a beth yw diben Cadw os nad yw'r naill na'r llall yn diogelu treftadaeth Cymru? Diolch.