Mawrth, 9 Mawrth 2021
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn...
Cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd gyntaf ar yr agenda heddiw, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflawni cynllun adfer COVID-19 ar gyfer busnesau? OQ56423
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad i addysg bellach ac uwch i weithwyr yng Nghymru a allai fod yn bwriadu ailhyfforddi? OQ56422
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
3. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wireddu potensial economaidd Casnewydd yn llawn? OQ56414
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o berfformiad Cadw ledled Gogledd Cymru? OQ56393
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o gyllid sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb flynyddol y llynedd? OQ56385
6. Pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod lles plant a phobl ifanc yn cael ei flaenoriaethu wrth ystyried llacio'r cyfyngiadau symud? OQ56425
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ei buddsoddiad mewn prosiectau cyfalaf? OQ56426
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd? OQ56388
9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a roddwyd i brosiect Rhondda Skyline? OQ56421
Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mike Hedges.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu hawliau dynol pobl anabl? OQ56381
2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ymdrechion i atal caethwasiaeth fodern yng ngogledd Cymru? OQ56405
5. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r trydydd sector yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ56413
4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu cyfraniad y sector gwirfoddol a gwirfoddoli yn ystod y pandemig? OQ56401
6. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ddiogelu hawliau dynol pobl hŷn yng Nghymru? OQ56424
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y diweddaraf am frechiadau COVID-19. Y Gweinidog, Vaughan Gething.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021. A dwi'n galw ar y Gweinidog unwaith eto i gyflwyno'r rheoliadau...
Cafodd eitemau 5, 6, 7 ac 8 ar ein hagenda ni eu gohirio tan yr wythnos nesaf.
Felly, eitem 9 yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-Gymdeithasol) (Cymru) 2021, ac rwy'n galw ar y Dirprwy...
Eitem 10 ar yr agenda yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021. Rwy'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig, Julie James.
Eitem 11 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar drydedd gyllideb atodol 2020-21, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig, Rebecca Evans.
Felly, symudwn ymlaen yn awr at eitem 12, sy'n ddadl ar gyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2021-22, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig, Rebecca Evans.
Eitem 13 ar ein hagenda yw dadl ar gyllideb derfynol 2021-22, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig hwnnw—Rebecca Evans.
Felly, symudwn ymlaen at y ddadl nesaf, sef setliad llywodraeth leol 2021-22, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.
Symudwn yn awr at y ddadl nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma, sydd ar setliad yr heddlu yn 2021-22. Unwaith eto, galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.
Rŷn ni nawr yn cyrraedd y ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg i gyflwyno'r eitem yma—Kirsty Williams.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch...
Dros yr wythnos nesaf, wrth i ni ddathlu cyfeillgarwch, undod a chyflawniadau'r Gymanwlad, dyma gyfle inni fyfyrio ar y cyfnod digynsail a fu. Er bod ein profiadau ni oll dros y flwyddyn...
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adfer gwasanaethau iechyd clinigol arfaethedig mewn ysbytai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia