Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 9 Mawrth 2021.
Diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio yn agos gyda'r awdurdod lleol ac eraill yng Nghasnewydd i gefnogi mentrau sy'n hybu potensial economaidd yn y ddinas, o ddatblygiad Arcêd y Farchnad i adnewyddu Tŵr y Siartwyr a'r cyfleusterau i ymwelwyr ym mhont gludo nodedig Casnewydd.