Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 9 Mawrth 2021.
A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am hynna, Llywydd? Mae trydedd gyllideb atodol y flwyddyn ariannol hon, a fydd yn cael ei thrafod yn y Senedd yn ddiweddarach y prynhawn yma, yn cwblhau ein cynlluniau gwariant cyllidol. O gyfanswm yr adnoddau sydd ar gael o £23.3 biliwn, mae 99.6 y cant o'r arian hwnnw wedi ei ymrwymo gan Lywodraeth Cymru fel y nodir yn y drydedd gyllideb atodol.