1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2021.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ei buddsoddiad mewn prosiectau cyfalaf? OQ56426
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud pob ymdrech i sicrhau'r gwerth gorau posibl o'i buddsoddiadau cyfalaf, yn unol â'r arferion gorau ar gyfer stiwardiaeth arian cyhoeddus.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Pe na byddai Llywodraeth Cymru newydd roi grant o £42.6 miliwn i Faes Awyr Caerdydd, gallai fod wedi recriwtio 1,000 o nyrsys GIG newydd a'u talu nhw am ddwy flynedd. Yn ddiweddar, rhoddodd y Gweinidog trafnidiaeth y bai am yr angen i ddileu £40 miliwn o ddyled sy'n ddyledus i drethdalwyr Cymru gan y maes awyr a dyfarnu'r grant aruthrol o fawr hwn iddyn nhw ar bandemig COVID, ond nid COVID sy'n gyfrifol am hyn, nage? Nid yw Maes Awyr Caerdydd erioed wedi gwneud elw o dan berchnogaeth y Llywodraeth, ac yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth diwethaf—pan roedd ganddo, yn ôl Mr Skates, y niferoedd uchaf o deithwyr erioed yn mynd drwy'r maes awyr—gwnaeth ei golled fwyaf erioed, hyd yn oed pan fyddwch chi'n cymryd y gwariant untro ar gyfer y flwyddyn honno i ystyriaeth. Mae'n wir bod COVID wedi gwthio ein holl feysydd awyr i wneud colled, ond roedd Caerdydd eisoes yn gwneud colledion mawr cynt, gan golli £20 miliwn y flwyddyn i'r trethdalwr. Ni ddisgwylir i niferoedd teithwyr ddychwelyd i lefelau cyn COVID am fwy na thair blynedd, felly, hyd y gellir rhagweld, bydd yn rhaid i chi roi o leiaf £20 miliwn y flwyddyn i Faes Awyr Caerdydd, yr un swm o arian â chyflog blwyddyn arall ar gyfer y 1,000 o nyrsys ychwanegol hynny y gallech chi fod wedi eu recriwtio yn hytrach na hynny. Nid bargen wael i'r gogledd yn unig yw hon, mae'n fargen wael i'r wlad gyfan. Onid yw'n wir, Prif Weinidog, eich bod chi'n cadw Maes Awyr Caerdydd mewn perchnogaeth gyhoeddus am resymau gwleidyddol, gan ei fod yn achosi gormod o gywilydd i chi gyfaddef na fydd byth yn hyfyw ac na ddylech chi fyth fod wedi buddsoddi yr un geiniog o arian pobl Cymru ynddo yn y lle cyntaf? Mae'r achubiad diweddaraf i Faes Awyr Caerdydd mor ddi-sail yn fasnachol fel na fyddai hyd yn oed Banc Datblygu Cymru, sy'n cymryd mwy o risg yn fwriadol na'r farchnad, wedi rhoi benthyg unrhyw arian iddo. Felly, Prif Weinidog, a oes terfyn i faint o arian da ar ôl drwg yr ydych chi'n barod i'w daflu at Faes Awyr Caerdydd, neu a wnewch chi ddiogelu arian cyhoeddus Cymru nawr, rhoi'r gorau i ariannu'r maes awyr, a'i wario ar wella GIG Cymru yn hytrach?
Llywydd, nid wyf i'n rhannu gelyniaeth yr Aelod tuag at Faes Awyr Caerdydd. Roedd ei chrynodeb mor anghywir ag yr oedd yn hir. Yn wir, o'r brig i'r gwaelod mae'n camliwio'r achos dros fuddsoddi ym Maes Awyr Caerdydd, llwyddiant y buddsoddiad hwnnw, ac mae hi—. Mae'n gamliwiad mor sylfaenol i honni y gellid defnyddio'r arian a ddarparwyd ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn GIG Cymru. Nid yw ar gael yn y ffordd honno, a byddai'r ddealltwriaeth symlaf—symlaf—o sut y mae cyllid yn gweithio wedi ei hatal rhag gwneud y camgymeriad hwnnw. Oherwydd nid yw'n gamgymeriad, nac ydy? Mae'n haeriad gwleidyddol y mae hi'n ceisio ei wneud. Mae hi'n anghywir am y maes awyr, mae hi'n anghywir am y cyllid, ac nid wyf i'n meddwl y byddai unrhyw un sy'n angerddol am fuddiannau Cymru yn barod i'w dilyn yn y ddadl y mae hi wedi ei gwneud.