Maes Awyr Caerdydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 9 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:27, 9 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Ah, wel, diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn yna am Faes Awyr Caerdydd. Mae'r pandemig byd-eang wedi cael effaith drychinebus ar y diwydiant hedfan byd-eang. Yma, rydym ni wedi gweithredu mewn modd pendant i helpu i sicrhau dyfodol Maes Awyr Caerdydd, i sicrhau bod ganddo ddyfodol cynaliadwy ac i ddiogelu gwerth y buddsoddiad cyhoeddus yn y maes awyr.