Cefnogaeth i'r Trydydd Sector yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 9 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:40, 9 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei hateb. Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol bod llawer o sefydliadau'r trydydd sector yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae Cysylltu Ieuenctid, Plant ac Oedolion yn Llanelli, yn fy rhanbarth i, yn un, wedi bod yn arallgyfeirio ac yn ceisio gwneud eu gweithrediadau yn fwy masnachol. Er enghraifft, yn CYCA, maen nhw wedi bod yn ceisio gosod man swyddfa ar gyfer desgiau poeth, y math yna o beth. Nawr, gydag effaith argyfwng COVID, mae'r ymdrechion hyn i ddod yn fwy masnachol o dan fygythiad, maen nhw wedi mynd yn anoddach, efallai y bydd yn rhaid cael pwyslais gwahanol. A all y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni y prynhawn yma pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'r mathau hynny o sefydliadau trydydd sector y mae eu hincwm wedi ei effeithio yn y tymor canolig?