Caethwasiaeth Fodern

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 9 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:36, 9 Mawrth 2021

Diolch am yr ateb yna. Mi ges i gyfarfod yn ddiweddar efo Soroptimist International Ynys Môn, mudiad sy'n gwneud gwaith gwerthfawr iawn ym maes caethwasiaeth fodern a county lines, ac yn codi ymwybyddiaeth ac ati. Maen nhw'n poeni bod y pandemig wedi ei gwneud hi'n anoddach i adnabod caethwasiaeth fodern, efo dioddefwyr o bosibl yn fwy ynysig, wedi eu cuddio o'r golwg fwy, yn ystod cyfnodau clo. Mae yna berygl hefyd y gallai caledi economaidd yn sgil y pandemig roi mwy o bobl mewn sefyllfa fregus, lle y gallen nhw fod yn agored i gael eu hegsploitio. Ac mae yna hefyd bryder bod y ffaith bod ysgolion wedi cau yn ei gwneud hi'n anoddach i adnabod plant sydd wedi cael eu tynnu i mewn i county lines. Gaf i ofyn pa astudiaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud o effaith y pandemig ar gaethwasiaeth fodern, a pha fesurau sy'n cael eu rhoi mewn lle i helpu dioddefwyr ar un llaw, ac i atal y troseddwyr ar y llaw arall?