Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 9 Mawrth 2021.
Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Mae pobl ag anabledd, yn enwedig y rhai ag anableddau cudd fel arthritis, sglerosis ymledol, encephalomyelitis myalgic a byddardod, yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y gellir rhoi mwy o gymorth i bobl sydd â'r mathau hyn o anableddau i sicrhau nad ydyn nhw o dan anfantais?