Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 9 Mawrth 2021.
Diolch, Dirprwy Weinidog, fe fyddwn i'n cytuno â hynny. Ledled Cymru rydym ni wedi gweld gweithredoedd o wir arwriaeth, gyda phobl yn cymryd rhan yn eu cymunedau lleol, yn cefnogi'r rhai sydd wedi bod yn unig ac yn ynysig. Yn ôl Age Cymru, mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn realiti dyddiol i lawer o bobl hŷn: mae 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi dweud eu bod bob amser neu yn aml yn teimlo'n unig. Rwyf wedi codi mater unigrwydd gwledig o'r blaen, Dirprwy Weinidog. Tybed pa drafodaethau y gallech chi fod wedi eu cael neu y gallech chi eu cael gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i drafod sut y gellir ymdrin â'r agwedd benodol honno ar unigrwydd mewn ardaloedd gwledig, a sut y gall y sector gwirfoddoli helpu i ddarparu cymorth.