Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 9 Mawrth 2021.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger bron. Mae'r Aelodau yn ymwybodol bod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi cael eu hadolygu ar 18 Chwefror, ac fe ddaethpwyd i'r casgliad y dylai Cymru i gyd aros ar lefel rhybudd 4. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bawb ddal ati i aros gartref am y tro. Mae'n rhaid i'r holl siopau nad ydynt yn hanfodol, mannau lletygarwch yn ogystal â safleoedd trwyddedig a chyfleusterau hamdden aros ar gau. Mae hyn yn golygu nad yw pobl, ar y cyfan, yn gallu ffurfio aelwydydd estynedig, sef yr hyn a elwir hefyd yn 'swigod'. Hyd nes i'r diwygiadau diweddaraf gael eu gwneud i'r rheoliadau, yr unig eithriad fu ar gyfer aelwydydd un oedolyn cyfrifol, oedolion sy'n byw ar eu pennau eu hunain, neu sy'n byw ar eu pennau eu hunain gyda phlant, a allai ffurfio swigod cymorth gydag un aelwyd arall. Ers i Gymru symud i rybudd lefel 4, mae aelwydydd sydd angen cyswllt ar sail dosturiol, neu i gynorthwyo gyda gofal plant, wedi gallu gwneud hynny.
Fodd bynnag, cafodd y rheoliadau eu diwygio fel y gall aelwydydd ag unrhyw blant dan un oed ffurfio swigod cymorth—unwaith eto, gydag un aelwyd arall. Mae hyn yn ceisio sicrhau y gall rhieni newydd neu warcheidwaid plant dan flwydd oed gael cymorth gan ffrindiau neu deulu yn ystod blwyddyn gyntaf hanfodol bywyd baban. Fe fydd hyn yn helpu gyda datblygiad y baban hefyd. Yn ogystal â hynny, mae'r rheoliadau diwygiedig ar gyfer y cyfyngiadau yn caniatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed sy'n byw ar eu pennau eu hunain, neu gyda phobl o'r un oedran, heb unrhyw oedolion, ffurfio swigod cymorth yn yr un modd. Ac yn olaf, mae'r rheoliadau diwygiedig yn caniatáu i bob lleoliad a gymeradwyir ar gyfer gweinyddu priodasau, seremonïau partneriaeth sifil, neu seremonïau priodas amgen, agor at y diben cyfyngedig hwn. I fod yn eglur, ni chaniateir ciniawau priodas ar hyn o bryd.
Rydym wedi nodi'n glir mai ein blaenoriaeth gyntaf ni yw gweld cymaint o blant a myfyrwyr â phosibl yn dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb cyn gynted ag y bo modd. Gyda hyn mewn golwg, fe fydd ein dull ni o lacio'r cyfyngiadau yn digwydd mewn camau graddol. Fe fyddwn ni'n parhau i wrando ar y cyngor meddygol a gwyddonol ac, wedi hynny, fe fyddwn ni'n asesu effaith y newidiadau a wnaed. Er gwaethaf y cynnydd enfawr o ran gweinyddu brechlynnau yr ydym ni newydd sôn amdano, a'r sefyllfa sy'n gwella o ran iechyd y cyhoedd, rydym wedi gweld pa mor gyflym y gall y sefyllfa ddirywio. Yn wyneb amrywiolion newydd o'r coronafeirws, yn arbennig amrywiolyn Caint, sy'n ymledu ar raddfa lawer cyflymach, ni allwn ddarparu cymaint o sicrwydd na rhagweld cymaint ag y byddem ni'n ei hoffi fel arall. Fe fyddwn ni'n rhoi cymaint o rybudd i bobl a busnesau ag y gallwn ni cyn gwneud unrhyw newidiadau. Pan fyddwn ni o'r farn ei bod yn ddiogel llacio'r cyfyngiadau, fe fyddwn ni'n gwneud hynny. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn, sy'n parhau i fod â rhan bwysig wrth addasu rheolau coronafeirws yma yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod nhw'n dal i fod yn effeithiol a chymesur. Diolch.