Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 10 Mawrth 2021.
Diolch. Bydd ystod o gymorth yn cael ei roi, gan gynnwys arweiniad, cynlluniau rheoli maethynnau a thempledi cadw cofnodion, gwasanaethau Cyswllt Ffermio a llinell gymorth bwrpasol, a weithredir gan y Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol (ADAS). Mae hyn yn ychwanegol at y £44.5 miliwn o gyllid cyfalaf sydd wedi'i ymrwymo hyd yma drwy'r rhaglen datblygu gwledig i gefnogi ffermwyr yng Nghymru.