Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:37, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Fel y gwyddoch, ac fel y dywedais yn y ddadl yr wythnos diwethaf, Weinidog, rwyf wedi cael sgyrsiau gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, gydag Undeb Amaethwyr Cymru, a chyda ffermwyr yn fy etholaeth, a heb os, ni waeth beth fo rhinweddau'r rheoliadau, mae ganddynt bryderon—pryderon dwys iawn—ynglŷn â’r effaith, ac yn enwedig yn y ffermydd bach hynny. Ac yn fy araith yr wythnos diwethaf, soniais am fferm, er enghraifft, a chanddi 75 o fuchod godro, a fyddai wedyn yn gorfod adeiladu technoleg i storio slyri na fyddai wedi cael ei defnyddio fel arall o bosibl. Cefais beth sicrwydd gan Lywodraeth Cymru, ac roeddwn yn gobeithio y byddech wedi’i nodi yn eich araith yr wythnos diwethaf, ond efallai mai nawr yw'r cyfle. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r ffermwyr hynny mewn perthynas â chynlluniau rheoli maethynnau? Pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r ffermwyr sy'n poeni am orfod dibynnu ar ymgynghorwyr i ymdrin â ffurflenni cymhleth? A chyda hynny oll mewn golwg, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno—ac yn amlwg, mae yna etholiad ar y ffordd—adolygu'r rheoliadau yn ystod y cyfnod y cânt eu cyflwyno'n raddol? Sut y bwriadwch gyflwyno'r adolygiad hwnnw a sicrhau nad yw ffermwyr fel y rhai bach yn fy etholaeth i yn cael eu heffeithio'n ormodol?