Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 10 Mawrth 2021.
Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod ffermwyr, undebau’r ffermwyr a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol wedi galw'r swm a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru i roi’r mesurau hyn ar waith yn un cwbl annigonol. Nawr, er bod gennyf gryn dipyn o barch tuag at yr AC dros Gaerffili, nid yw ei reswm dros beidio â phleidleisio yn erbyn y Llywodraeth ddydd Mercher diwethaf yn gwneud unrhyw synnwyr pan ddywed fod dau lygrwr mawr yn ei etholaeth—mae'n datgelu dadleuon y Gweinidog dros gosbi'r diwydiant cyfan. Dylai ymyrraeth fod yn un sydd wedi'i thargedu. Felly, Weinidog, pam yr aethoch yn erbyn holl gyngor y sector amaethyddol a rhoi strategaeth a allai fod mor drychinebus ar waith yn gyffredinol?