Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 10 Mawrth 2021.
Wel, y gwir amdani, David Rowlands, fel y dywedaf, yw bod £44.5 miliwn o gyfalaf wedi'i neilltuo i hyn eisoes, ynghyd â chyllid pellach ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac yn amlwg, dim ond ar sail un flwyddyn y gallwn wneud hynny gan mai dim ond cyllideb blwyddyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei chael gan Lywodraeth y DU. Ond rwyf bob amser wedi dweud yn glir iawn y byddai cymorth ar gael i'r sector ffermio mewn perthynas â'r rhain.
Yr hyn nad ydych yn ei ddeall yn ôl pob golwg yw bod y rheoliadau wedi'u targedu. Ni allwn wneud hyn mewn ardaloedd penodol oherwydd nifer y digwyddiadau llygredd amaethyddol rydym yn eu gweld ledled Cymru. Ond bydd y rheoliadau wedi’u targedu, ac mae’r rhan fwyaf o ffermydd eisoes yn bodloni’r gofyniad sylfaenol hwnnw. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod gennym y gofyniad sylfaenol i wella a lleihau nifer yr achosion sydd, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, yn destun cywilydd i’r sector amaethyddol.