Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 10 Mawrth 2021.
Dylwn ddatgan fy mod yn aelod o'r Wrexham Litter Pickers y cyfeiriodd Llyr Gruffydd atynt—mae'n rhaid inni gofio nid y Llywodraeth sy'n taflu sbwriel; pobl sy'n taflu sbwriel—a hoffwn ganmol y gwaith y maent wedi'i wneud. Ac fe fyddwch yn ymwybodol o'r cynllun atal sbwriel a thipio anghyfreithlon y soniais amdano mewn ateb cynharach i Jayne Bryant.
Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud llawer iawn mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni ac wedi gwario miliynau o bunnoedd ar gartrefi. Mae gennym stoc dai hen iawn yma yng Nghymru a chredaf fod fy nghyd-Weinidog Julie James wedi gwneud gwaith gwych yn sicrhau nad ydym yn adeiladu cartrefi yn awr y bydd angen eu hôl-osod ymhellach ymhen blynyddoedd i ddod. A chredaf mai’r hyn rydym yn ei weld yma yw nid chi’n dangos methiannau'r Llywodraeth hon, gan nad wyf yn cydnabod y rhai y soniwch amdanynt, ond maniffesto Plaid Cymru.