Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 10 Mawrth 2021.
Credaf ein bod wedi gwneud llawer iawn i gefnogi’r gwaith o osod cynlluniau ynni adnewyddadwy. Rwyf wedi gweithio'n agos iawn gydag unrhyw un sy'n fodlon cyflwyno'r cynlluniau. Yfory, byddaf yn cyfarfod â datblygwyr ac yn edrych ar gynlluniau newydd. Mae’n rhaid ichi ddeall ein bod wedi darparu cryn dipyn o gyllid hefyd, ond mae gwir angen datblygwyr arnom ac mae angen inni weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl ysgogiadau'n cael eu defnyddio mewn perthynas â gosod cynlluniau newydd.