Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:43, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Ond nid yw hynny'n newid y ffaith bod y gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn arafu o dan wyliadwriaeth Llafur. Dylai datgan argyfwng hinsawdd olygu cynyddu gwaith datblygu a'i gyflymu, ond nid ydych wedi cyflawni hynny. Nawr, efallai na ddylem synnu, o ystyried eich bod yn torri cymorth i’r sector ynni dŵr, er enghraifft, yng Nghymru, gan adael llawer o'r cynlluniau hynny'n wynebu trafferthion ariannol, ac mae'n debyg fod eich penderfyniad wedi lleihau hyder eraill hefyd a oedd yn ystyried datblygu cynlluniau ynni newydd tebyg.

Ac nid yr arafu o ran datblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru o dan eich gwyliadwriaeth yw'r unig beth y dylech ei fod yn edifar yn ei gylch wrth gwrs. Mae gwastraff plastig yn un arall. Mae'n bla y mae pob un ohonom am ei gweld yn cael ei threchu gyda chynnydd enfawr mewn ymyriadau i fynd i'r afael â'r broblem. Cefais fy ethol i'r Senedd hon yn 2011, a bryd hynny, roedd sôn am weithredu ar gynllun dychwelyd ernes. Ddeng mlynedd a dwy Lywodraeth Lafur yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros am yr ymyriadau hynny. Onid oes cywilydd arnoch nad oes gennym gynllun dychwelyd ernes yng Nghymru o hyd?