Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 10 Mawrth 2021.
Wel, yn sicr, ni chafodd y dystiolaeth ei thaflu i'r bin, fel y dywedwch. Rydym yn edrych ar unrhyw dystiolaeth a gymerwn ac mae'n ffurfio rhan o'r penderfyniad. Os cofiaf yn iawn, credaf fod gan yr adroddiad y cyfeirioch chi ato tua 45 o argymhellion. Ac unwaith eto, os cofiaf yn iawn, roedd pob un argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru; nid oedd yr un ohonynt ar gyfer y sector amaethyddol. Felly, credaf y gallwch weld pam ein bod angen cefnogaeth y sector amaethyddol a pham y gwneuthum ymdrech fawr i geisio gweithio gyda hwy, pan ddywedasant y byddai dulliau gwirfoddol yn helpu. Ac yn anffodus, ni welsom ostyngiad yn nifer y digwyddiadau.
Felly, o ble y cefais fy nhystiolaeth? Wel, fel y dywedais, roeddem yn amlwg yn defnyddio'r dystiolaeth honno, ond cawsom dystiolaeth gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd hefyd, ac rwy'n credu, unwaith eto, y byddai pob Aelod yn y Senedd hon—ar wahân i un neu ddau o amheuwyr efallai—yn deall ein bod o ddifrif ynghylch y cyngor annibynnol a gawn ganddynt a'i fod yn ein helpu gyda'n polisi.