Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 10 Mawrth 2021.
Weinidog, a gaf fi ehangu'r cwestiwn hwn ynghylch y ffordd rydych yn defnyddio tystiolaeth wrth wneud penderfyniadau polisi? Fe fyddwch yn gwybod bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy tryloyw wrth ddangos effaith carbon holl bolisïau a phenderfyniadau gwariant y Llywodraeth. Sut rydych wedi ymateb i hynny? A ydych yn cadw ffigurau cywir ynglŷn ag ôl troed carbon penderfyniadau polisi a chyllidebu, er enghraifft? Ac a ydych yn credu bod yna ffordd y gallech fod hyd yn oed yn fwy tryloyw drwy gyhoeddi'r rheini a chaniatáu i'r cyhoedd weld beth yn union yw ôl troed carbon Llywodraeth Cymru?