Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 10 Mawrth 2021.
Weinidog, yn eich ymateb i Mike Hedges, ni sonioch chi am les anifeiliaid mewn sŵau ac atyniadau anifeiliaid ledled Cymru. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi bod yn galw ers peth amser bellach am gronfa gymorth i sŵau yng Nghymru. Maent yn bodoli mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac yn wir, mewn mannau eraill yn Ewrop, ond nid yw Cymru eto wedi sefydlu cronfa gymorth i sŵau er mwyn sicrhau y gall anifeiliaid yn ein sŵau, yn ystod y cyfyngiadau symud hyn, gael y lles o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu heb i'r sefydliadau hynny orfod defnyddio eu cronfeydd wrth gefn neu eu cynilion a roddwyd o'r neilltu ganddynt ar gyfer buddsoddi yn eu busnesau. A allwch chi ddweud wrthym beth yw eich barn ddiweddaraf ynglŷn ag a ddylid sefydlu cronfa gymorth i sŵau yng Nghymru, yn enwedig o gofio y byddai'r gronfa hefyd yn sicrhau'r gwaith pwysig y mae sŵau ac atyniadau anifeiliaid yn ei wneud o ran cadwraeth a bridio, sydd hefyd yn cael ei effeithio'n awr o ganlyniad i ddiffyg cronfa yma yng Nghymru?