Lles Anifeiliaid

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:11, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, nid oes arnom angen cynllun cymorth penodol ar gyfer sŵau yng Nghymru, oherwydd roedd ein sŵau'n gallu cael cyllid o'r gronfa cadernid economaidd, a oedd, yn amlwg, yn unigryw i Gymru. Felly, yn ystod y pandemig COVID-19, gwnaeth llawer o'r sŵau gais am gyllid o'r gronfa cadernid economaidd ac roeddent yn amlwg yn llwyddiannus. Felly, er fy mod yn deall bod gan wledydd eraill yn y DU gynllun cymorth penodol ar gyfer sŵau, rwy'n credu, os edrychwch, fod gan ein sŵau, mae'n debyg—rai ohonynt, yn sicr—fwy o arian nag y byddent wedi'i gael gan gynllun cymorth mewn gwlad arall.