2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 10 Mawrth 2021.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent? OQ56406
Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent drwy gyllid craidd heb ei neilltuo, yn ogystal â thrwy grantiau penodol i'r awdurdod ar gyfer amrywiaeth o flaenoriaethau a rennir.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am hynny. Rydym yn ymwybodol fod y setliad llywodraeth leol presennol yn setliad hael iawn, ac mae'n un sy'n adeiladu ar wariant ychwanegol sylweddol drwy'r pandemig i gefnogi awdurdodau lleol nad ydynt wedi gallu defnyddio eu ffynonellau ariannu arferol yn y ffordd arferol, ac maent wedi gorfod ymdopi â phwysau ychwanegol sylweddol. Felly, mae hyn yn adeiladu ar bolisi a ddilynwyd gan Lywodraethau olynol yng Nghymru sy'n diogelu llywodraeth leol, yn diogelu gwasanaethau lleol ac yn diogelu swyddi lleol, a gwneir hyn mewn ffordd sy'n dangos ymrwymiad gwirioneddol i ddemocratiaeth leol yng Nghymru o'i chymharu â'r sefyllfa ar draws ein ffin.
Mae'r £6.3 biliwn mewn gwariant cyfalaf a refeniw sy'n cael ei ddarparu i lywodraeth leol yn y gyllideb y cytunwyd arni ddoe yn rhywbeth a fydd yn galluogi cynghorau nid yn unig ym Mlaenau Gwent, ond ledled Cymru i fuddsoddi yn eu pobl, yn eu gwasanaethau ac yn eu cymunedau. Weinidog, rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno mai dyma'r ffordd y mynegwn ein gwerthoedd fel Llafur Cymru—buddsoddi mewn pobl leol, cynghorau lleol a democratiaeth leol—ac mae cymhariaeth real iawn â'r ffordd y mae llywodraeth leol yn cael ei thynnu'n ddarnau dros y ffin yn Lloegr.
Rwy'n sicr yn cytuno ag Alun Davies ar y pwynt hwnnw. Roeddwn yn falch iawn yn y setliad ddoe fy mod wedi blaenoriaethu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Roedd y gyllideb gyffredinol a gyflwynodd fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans ychydig cyn imi gyflwyno'r setliad llywodraeth leol yn blaenoriaethu cyllid ar gyfer iechyd a llywodraeth leol yn y gyllideb honno i raddau mawr iawn, ac yn wir mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi cael setliad da iawn.
O safbwynt Blaenau Gwent, cynyddodd y cyllid craidd heb ei neilltuo ar gyfer cyngor Blaenau Gwent i dros £120 miliwn ar gyfer 2021-22, sy'n gynnydd o 3.7 y cant i gyd, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau amrywiol. Daw hyn, wrth gwrs, ar ôl y setliad rhagorol yn y flwyddyn ariannol gyfredol hon i Flaenau Gwent, a gynyddodd £4.3 miliwn, cynnydd o 3.9 y cant ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau. O fewn y gronfa caledi yn wir, rydym wedi darparu £4.57 miliwn ychwanegol i Flaenau Gwent ar gyfer costau ychwanegol, ac £1.7 miliwn arall ar gyfer incwm a gollwyd hyd at ddiwedd mis Chwefror, sef cyfanswm o £6.27 miliwn yn ychwanegol at ei gyllid arferol, er mwyn ystyried y caledi y mae'r cyngor hwnnw, fel llawer o rai eraill, wedi'i brofi oherwydd y pandemig.
Rydym ni yn Llywodraeth Cymru—unwaith eto, yn wahanol i gymheiriaid dros y ffin—o'r farn fod democratiaeth leol yn beth da ac y dylid caniatáu i bobl leol ethol eu cyngor a dylid caniatáu i'w cyngor osod y dreth gyngor y mae ei hangen. Rwy'n deall bod Blaenau Gwent yn cynyddu ei dreth gyngor 3.3 y cant, sydd ar yr ochr uchel i Gymru o gofio haelioni'r setliad, ond unwaith eto, fe wnaethom ddewis peidio â chapio'r cyngor ar y sail ein bod yn credu bod pobl leol yn ethol y cyngor y maent am ei gael a hwy sy'n gwneud y gwaith da o benderfynu beth ddylai'r dreth gyngor fod. Fodd bynnag, rydym wedi gofyn i gynghorau edrych yn ofalus iawn ar yr hyn sy'n fforddiadwy yn eu hardal ac wrth gwrs, mae'n bleser gennyf ddweud ein bod wedi cynnal hawl lawn o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor ar gyfer 2021-22, ac rydym yn darparu £244 miliwn o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn y setliad i gydnabod hynny. Felly, lle ceir caledi a lle mae'r dreth gyngor yn codi, bydd gan bobl hawl i wneud cais o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Unwaith eto, nid oes cynllun o'r fath yn bodoli dros y ffin, gan iddo gael ei ddiddymu, fel y gwyddoch. Credaf efallai mai chi oedd y Gweinidog ar adeg y diddymu, mewn gwirionedd, Alun. Penderfynwyd cadw'r cynllun hwnnw, er nad oedd wedi ei ariannu'n llawn pan ddigwyddodd hynny. Felly, rwy'n falch iawn o allu dweud hynny, ond rwy'n credu mewn democratiaeth leol ac felly rydym wedi caniatáu i bob cyngor gael rhyddid i bennu ei dreth gyngor ei hun. Maent wedi cymeradwyo'r setliad da iawn a gawsant am yr ail flwyddyn yn olynol gan Lywodraeth Cymru.