2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 10 Mawrth 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd addasiadau i'r cartref fel ffordd i alluogi pobl hŷn i fyw yn iachach ac yn fwy annibynnol? OQ56408
Diolch, Lywydd. Maddeuwch imi, methais y cwestiwn. Tybed a fyddai Rhun yn gallu ei ailadrodd. Collais y rhyngrwyd.
Y cwestiwn ar y papur trefn ydyw, ond Rhun—
Iawn. Ymddiheuriadau, collais y rhyngrwyd yn llwyr wrth i chi alw fy enw, felly ni chlywais y cwestiwn.
Iawn. A allwch chi ei gymryd o'r papur trefn, neu a ydych chi eisiau i Rhun—?
Yn sicr, os na fethais unrhyw beth arall, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.
Na, ni chrwydrodd oddi ar y papur trefn. Ni fyddwn wedi caniatáu iddo wneud hynny.
Diolch, Lywydd. Yn wir, felly, mae'r pandemig wedi amlygu'r rôl hanfodol y mae addasiadau i'r cartref, yn fawr a bach, yn ei chwarae yn helpu pobl i gadw eu hurddas a'u hannibyniaeth a byw'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Er gwaethaf yr heriau, mae'r gwasanaethau hyn wedi parhau drwy gydol y pandemig.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Fe wnaf i wneud y pwynt a dweud y gwir nad dim ond pobl hŷn sy'n gallu elwa o addasiadau i'r catref. Dwi'n cymeradwyo'r Motor Neurone Disease Association am yr ymgyrch maen nhw'n ei rhedeg ar hyn o bryd yn gwthio am fwy o addasiadau i'r cartref i bobl sy'n byw efo'r afiechyd hwnnw. Ond at bobl hŷn yn benodol, rydyn ni'n gwybod bod pobl hŷn yn syrthio yn costio yn ddrud iawn i'r NHS—dros £2 biliwn i'r NHS drwy Brydain. Rydyn ni'n gwybod y gall addasiadau i'r cartref leihau anafiadau o gymaint â 26 y cant. Rŵan, o ystyried bod pobl wedi bod yn treulio mwy o amser yn eu cartrefi yn ystod y pandemig yma, a all y Gweinidog ddweud wrthym ni beth ydy'r sefyllfa o ran backlog o addasiadau tai sydd wedi cael ei greu gan y pandemig, a beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â hyn, oherwydd yr help mae addasiadau yn gallu eu darparu o ran byw'n iach ac yn annibynnol?
Ie, diolch yn fawr iawn, Rhun. Rydych yn llygad eich lle, mae addasiadau'n hwyluso pethau i atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf ac maent hefyd yn hwyluso ac yn cefnogi'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty i wella a chael mynediad at lwybrau gofal, gan ryddhau gwelyau ysbyty ac osgoi'r angen am leoliadau cam-i-lawr mewn gofal preswyl. Maent yn amlwg yn helpu pobl i gael bywyd hapusach ac iachach yn eu cartrefi eu hunain, felly rydym yn awyddus iawn i barhau â'r gwaith da sydd wedi bod yn mynd rhagddo. Mae'r addasiadau ymateb cyflym yn cymryd tua naw diwrnod ar gyfartaledd i'w cyflawni.
Rydych chi'n gywir, serch hynny, ein bod wedi cael gostyngiad yng nghyfradd yr addasiadau yn rhan gyntaf y pandemig. Er ein bod yn glir y gallai addasiadau barhau drwy gydol y pandemig fel gwaith hanfodol sydd wedi cael ei ganiatáu drwy'r amser hwnnw, roedd pobl, yn ddealladwy, yn fwy amharod i adael pobl i mewn i'w cartrefi ac yn y blaen, yn enwedig yn ystod camau cyntaf y pandemig. Ond rwy'n falch iawn o allu dweud bod y gwaith wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod ail hanner y flwyddyn, ac mae'r lefelau gweithgarwch presennol yn debyg i flynyddoedd blaenorol, felly nid oes llawer o ôl-groniad ac mae'r amseroedd ymateb cyfartalog yn ôl i'r arfer fwy neu lai erbyn hyn. Ac fel y dywedais, ar gyfer y rhai ymateb cyflym, maent yn cymryd naw diwrnod ar gyfartaledd i'w cyflawni; mae addasiadau canolig fel lifftiau grisiau ac yn y blaen yn cymryd pedwar mis ar gyfartaledd; ac mae'r addasiadau mwyaf fel estyniadau ac yn y blaen yn cymryd naw mis ar gyfartaledd.
Weinidog, diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Yn nadl fer fy nghyd-Aelod Nick Ramsay ar glefyd niwronau motor yr wythnos diwethaf, roeddech yn sôn am y 40 wythnos ar gyfer addasiadau mawr i'r cartref, ac wrth gwrs, nid mater i bobl â chlefyd niwronau motor yn unig yw hwn. Gyda COVID, ar ôl gwrando ar dystiolaeth Covid Hir Cymru y bore yma yn y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n eithaf amlwg y bydd rhai achosion yno; pobl sydd wedi cael damweiniau traffig ar y ffyrdd, pobl sydd wedi goroesi sepsis, pobl sydd wedi bod mewn gofal dwys; yn aml iawn, mae yna bethau difrifol sy'n galw am addasiadau i'r cartref. Mae 40 wythnos yn amser eithriadol o hir. Roedd gennyf un ffermwr penodol a dorrodd ei gefn ar y fferm ac oherwydd ei fod yn byw mewn tŷ rhestredig, nid oeddent yn cael gosod ffon ddur hyd yn oed i allu cael teclyn codi a fyddai wedi caniatáu iddo fyw gartref. Ac fe sonioch chi nawr am ganiatáu i bobl fyw bywydau iachach a hapusach gartref; wel, mewn gwirionedd, i rai pobl, dyna lle maent eisiau bod ac rydym ni eisiau gallu rhoi'r dewis iddynt.
Felly, a wnewch chi ystyried sut y gallem gysylltu â'r adran gynllunio yn yr achosion prin iawn hyn lle mae pobl angen yr addasiadau hynny i allu dod o hyd i ffordd drwy'r system gynllunio gyfan? Oherwydd os na allwch gael y cynlluniau hynny drwodd, os na allwch adeiladu'r estyniad hwnnw, os na allwch osod y teclyn codi hwnnw a'r strwythur sydd ei angen ar ei gyfer, bydd yn rhaid i'r bobl hynny adael eu cartref a mynd i ofal y wladwriaeth neu bydd yn rhaid i'r teulu cyfan werthu a cheisio dod o hyd i rywle arall i fyw. Mae hwnnw'n amhariad brawychus, a byddwn wedi meddwl, yn ein cymdeithas ni, y gallem fod wedi dweud, 'Mewn gwirionedd, weithiau, mae modd eithrio rhai pobl rhag y rheolau a'r rheoliadau arferol.' Rwy'n credu y dylem allu rhoi cynllun ar waith a hoffwn gael eich barn ar hynny.
Ie, diolch, Angela Burns. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r enghraifft benodol honno, ond rwy'n fwy na pharod i edrych ar y gweithdrefnau, yn enwedig ar gyfer tai rhestredig; mae'n amlwg bod cymhlethdod ychwanegol yno. O ran yr addasiadau mwy a chynllunio yn gyffredinol, mae gennym lwybr ar gyfer hynny, ac mae asiantaethau gofal a thrwsio yn gyfarwydd iawn â gweithio gydag adrannau cynllunio. Ond rwy'n hapus iawn i edrych ar unrhyw achosion unigol sydd gennych lle nad yw hynny'n gweithio. Efallai fod adran gynllunio benodol, neu fod achosion penodol. Rwy'n hapus i edrych ar hynny os ydych eisiau rhannu'r manylion â mi.
Ond yn gyffredinol, rydym yn gweithio gydag adrannau cynllunio i sicrhau bod yr amseroedd cyfartalog oddeutu naw mis. Ac mae 40 wythnos yn amser hir iawn, rydych yn hollol gywir, ond yn amlwg, weithiau maent yn adeiladu estyniad cyfan ac yn y blaen, felly maent yn addasiadau mawr iawn. Mae'r addasiadau llai—fel y dywedais, lifftiau grisiau ac yn y blaen—yn cymryd tua pedwar mis ac mae'r rhai ymateb cyflym yn cymryd tua naw diwrnod. Rwy'n hapus i ddweud ar y pwynt hwn fy mod i heddiw wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig oherwydd rydym wedi gallu cytuno i ddileu'r prawf modd, y soniais amdano yn fy ymateb i Nick Ramsay ar glefyd niwronau motor. Felly, rwy'n hapus i ddweud ein bod wedi gwneud hynny hefyd, a bydd hynny'n cyflymu rhai o'r amseroedd ymateb i wneud addasiadau hefyd.
Weinidog, tybed a fyddech yn ymuno â mi i dalu teyrnged i'r gwaith sydd wedi'i wneud drwy'r pandemig gyda sefydliadau lleol gwych fel Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Er gwaethaf cyfyngiadau'r pandemig, fe wnaethant barhau i geisio gwneud yr addasiadau hynny ledled fy ardal. Ond, hefyd, a fyddai'n cytuno â mi fod hyn yn ymwneud â mwy na hynny hefyd? Mae'n ymwneud â phethau fel gwasanaeth Cadw'n Iach Gartref Cwm Taf a ariannwyd gennym sawl blwyddyn yn ôl drwy'r gronfa gofal integredig, gan gysylltu Rhondda Cynon Taf, Merthyr a bwrdd iechyd Cwm Taf â gwasanaeth sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, therapyddion, ffisiotherapyddion, technegwyr therapi, fel bod modd rhyddhau pobl yn gyflym i fyw gartref a gwella gartref lle maent eisiau bod, yn hytrach na'u bod yn mynd i'r ysbyty ac yn aros yn yr ysbyty. Felly, rwy'n gofyn, Weinidog, a wnewch chi gydnabod y gwaith anhygoel sydd wedi mynd rhagddo yn ystod y pandemig hwn, hyd yn oed gyda'r cyfyngiadau ychwanegol y maent wedi'u hwynebu, ac ategu fy niolch iddynt am yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud?
Yn sicr, Huw Irranca-Davies, hoffwn ategu eich diolch i bawb sydd, er gwaethaf yr holl heriau rydych wedi'u hamlinellu, wedi gweithio i sicrhau bod y bobl sydd eu hangen yn parhau i gael yr addasiadau y maent eu hangen i fyw'n ddiogel, osgoi gorfod mynd i'r ysbyty a dychwelyd adref mewn da bryd. Fe wyddoch gystal â mi fod Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Siarl i gyd yn rhan o'r cynllun Ysbyty i Gartref Iachach, mewn partneriaeth ag asiantaethau gofal a thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf. Hoffwn ddweud wrthych fod 739 o gleifion, yn y 10 mis hyd at ddiwedd mis Ionawr, wedi cael addasiad a'u cynorthwyodd i adael yr ysbyty'n ddiogel, gan arbed dros 4,500 o ddiwrnodau gwely. Cafodd 86 o'r cleifion hynny gymorth i gael budd-daliadau ychwanegol hefyd, gyda gwerth blynyddol o tua £420,000, felly rydych yn llygad eich lle, mae cydweithrediad y gwahanol asiantaethau wedi arwain nid yn unig at ryddhau pobl yn fwy diogel ac yn gyflymach o'r ysbyty, ond at incwm a chymorth ychwanegol i bobl sydd angen y cymorth hwnnw i allu byw bywyd hapus ac iach gartref.