Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:42, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

O'r gorau. Diolch ichi am hynny, Weinidog. Byddaf yn aros yn eiddgar i weld beth fydd y cyhoeddiad ddydd Gwener.

Gan droi at faes arall, rwy'n credu bod y pandemig wedi dangos i bawb ohonom pa mor hanfodol yw teimlo'n ddiogel yn ein cartrefi. Mae gormod o bobl yng Nghymru yn teimlo'n anniogel yn yr adeiladau lle maent yn byw, yn aml oherwydd bod cladin y mae'r datblygwr wedi gwrthod cael gwared arno'n peri pryder aruthrol iddynt. Mae'r bobl hyn mewn sawl ffordd wedi'u caethiwo yn eu cartrefi, oherwydd ni allant eu gwerthu, ond nid ydynt ychwaith yn teimlo'n ddiogel ac maent yn wynebu costau enfawr mewn taliadau gwasanaeth, mewn biliau, na ddylai fod yn rhaid iddynt eu talu a bod yn onest.

Ers blynyddoedd, mae Plaid Cymru—gwn y byddwch yn gwybod hyn—wedi datgan yr angen am dreth ffawdelw ar elw datblygwyr mawr i dalu am unioni'r problemau a achoswyd ganddynt, a gwn o'n trafodaethau blaenorol fod gennych ddiddordeb yn y syniad hwn hefyd. Ond ar hyn o bryd, mae'n debyg ei fod y tu hwnt i bwerau'r Senedd i gyflwyno hynny. Felly, hyd nes y cawn y pŵer hwnnw, Weinidog, a ydych yn credu y dylai Llywodraeth nesaf Cymru ariannu'r gwaith atgyweirio gyda golwg ar gael yr arian yn ôl, efallai, o dreth ffawdelw neu o ddulliau eraill? Wedi'r cyfan, ni ellir troi cefn ar y tenantiaid hyn a'u gadael i wynebu eu trafferthion.