Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 10 Mawrth 2021.
Diolch, Weinidog. Rwy'n hapus iawn gyda'ch ymateb yn awr, ac rwy'n siŵr y bydd y grŵp ymgyrchu lleol yn falch hefyd. Oherwydd ni ddylai'r mathau hyn o safleoedd ddod i fodolaeth yn y lle cyntaf yn fy marn i. Ni ddylem orfod mynd drwy'r holl gost o orfod gwneud archwiliadau o bethau y mae pawb yn gwybod nad ydynt yn addas.
Fodd bynnag, mae'r coronafeirws wedi cael effaith fawr ar unigolion a theuluoedd ledled y DU, fel y gwyddom. Ond o ran plant a phobl ifanc mewn gofal, fel y trafodwyd gennym yn y gorffennol, neu blant sydd wedi bod yn derbyn gofal o'r blaen, mae'r materion hyn yn amlwg yn llawer iawn pwysicach. Pa drafodaethau a gawsoch, a pha ystyriaeth a roddwyd gennych, i gymorth hirdymor i'r union bobl rwyf newydd eu disgrifio, i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi'n ddigonol wrth symud ymlaen? Diolch.