Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:39, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Wrth agor, Weinidog, hoffwn adleisio'r hyn y mae Laura wedi'i ddweud. Mae wedi bod yn bleser eich cysgodi yn y swydd hon a dod o hyd i lawer o fannau lle ceir cydsyniad, rwy'n credu. Yn amlwg, ni fyddwn wedi cytuno ar bopeth, ond rwyf eisiau diolch i chi hefyd.

Gan droi at y cwestiynau sydd gennyf, mae'r amddiffyniadau ychwanegol i denantiaid yn ystod COVID—y gwaharddiad ar droi allan a beilïaid yn mynd i gartrefi pobl—i fod i ddod i ben ddiwedd y mis hwn, ac yfory yw'r pwynt adolygu nesaf pan allech ymestyn yr amddiffyniadau hynny ymhellach. Mae cymaint o agweddau ar fywyd nad ydynt wedi agor eto, ac mae tenantiaid yn dal i wynebu bygythiad o ddigartrefedd. Mae pob un o'r gohiriadau cyfnodol rhag troi allan wedi ymestyn y pryder i lawer o denantiaid mewn gwirionedd, oherwydd nid ydynt wedi cael cyfnod estynedig i allu teimlo'n ddiogel. Rwy'n gwybod eich bod wedi dweud mewn llythyr at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau nad oeddech yn bwriadu adolygu hyn tan yn nes at ddiwedd y mis, ond hoffwn ofyn i chi ystyried ymrwymo yfory i ymestyn yr amddiffyniadau hynny i denantiaid, fel na welwn droi allan torfol yn digwydd pan ydym yn dal i fod yng nghanol pandemig, ond yn bennaf er mwyn tawelu eu meddyliau.